Newyddion S4C

Cymro yn curo ceffyl mewn ras am y tro cyntaf

Dyn v ceffyl

Mae Cymro wedi curo ceffyl yn y ras Dyn yn erbyn Ceffyl yn Llanwrtyd am y tro cyntaf erioed.

Fe lwyddodd Dewi Griffiths o'r Swansea Harriers i ennill y ras flynyddol tua 24 milltir o hyd a hynny mewn dwy awr 23 munud a 54 eiliad.

Curodd Gweni y ceffyl a orffenodd y ras mewn dwy awr, 35 munud a 45 eiliad.

Eleni roedd dros 700 yn cystadlu - rhai yn unigolion, eraill yn gwneud mewn timau fel ras gyfnewid.

Ond er bod Dewi wedi rhedeg a dod i'r brig mewn sawl ras dyma'r tro cyntaf iddo wneud yr her yma.

"O'n i ddim yn siŵr fel o'dd y cwrs mynd i fod noson cyn ni ar ôl yr holl law gelon ni," meddai wrth siarad gyda BBC Radio Cymru.

"Ond ar y diwrnod odd popeth fel o'n i yn gobeithio a nes i ddi a nes i ben a beto ceffyl."

Mae'r ras yn golygu bod y rhedwr yn cychwyn gyntaf gyda'r ceffylau yn dechrau chwarter awr ar ôl hynny. Er mwyn gwybod os yw'r rhedwr wedi llwyddo i guro'r ceffyl mae'n rhaid aros am chwarter awr ar y diwedd i gael gweld. 

 "Teimlad od" oedd hynny meddai Dewi gan ei fod wedi arfer cael cystadleuwyr eraill o'i gwmpas. Doedd "dim cliw" ganddo os oedd o yn gwneud yn dda.

"Ma fe yn ras hollol wahanol i'r cyffredin ond rhywbeth o'n i wastad moyn neud rhywbryd yn fy ngyrfa," meddai.

"Ma nhw yn gweud bod y ceffyl rhywbeth tebyg lan rhiw, ar y fflat ma nhw yn gynt ond yn y mannau serth, lawr rhiw ma nhw yn arafach."

Roedd y teulu yno i'w gefnogi ac un aelod arbennig, ei ferch fach Gwennan sydd ychydig wythnosau oed.

"Sai'n siŵr os joiodd hi'r ras lot achos sai'n siŵr os odd hi ar ddihun am lot o fe. A fi'n credu misodd hi'r diwedd achos odd hi moyn bwyd yn lle ni!"

Ond roedd hi yno i gael y tlws gyda'i thad.

"Saith wythnos oed. Ma hi di bod ar y podium yn barod!"

Llun: Man versus Horse

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.