Newyddion S4C

Her codi arian 100 milltir i dad o Geredigion wedi i'w fab ddioddef llosgiadau 'difrifol'

Paul a Harri Davies

Bydd dyn o Aberaeron yn cymryd rhan mewn marathon ultra 100 milltir er mwyn codi arian i’r Ambiwlans Awyr ar ôl iddyn nhw drin ei fab wedi iddo ddioddef llosgiadau difrifol.

Roedd mab Paul Davies, Harri, yn 18 mis oed pan gafodd ei freichiau eu llosgi’n ddifrifol gan hylif poeth mewn damwain.

Daeth parafeddygon i ymdrin â Harri a phenderfynwyd oherwydd difrifoldeb ei anafiadau, y byddai Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei alw i gynorthwyo.

Unwaith roedd ei gyflwr yn sefydlog, cafodd Harri, sydd bellach yn 12 oed, ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Treforys yn Abertawe, sydd ag uned arbenigol i ymdrin â llosgiadau.

Dywedodd Paul, sydd hefyd yn dad i Emily, 10 oed: “Gan ein bod ni’n byw mewn rhan wledig o Gymru lle gall gymryd ychydig o oriau i gyrraedd prif ysbyty, mae Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth mor werthfawr i’r gymuned.

“Er mwyn i Harri dderbyn cymorth ar unwaith gan yr uned llosgiadau, cafodd ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Treforys, sy’n golygu bod y daith, sydd yn cymryd awr a hanner mewn car, wedi cymryd llai na 10 munud.

“Fel rhieni, byddaf fi a fy ngwraig, Rachel, yn ddiolchgar am byth am y cymorth gafodd ein mab y diwrnod hwnnw.”

Image
Paul a Leighton
Paul a Leighton yn ymarfer am yr her

Y mis nesaf bydd Paul a’i ffrind Leighton Daniel, sydd yn dad i ddau o blant ac yn swyddog heddlu, yn ymgymryd â her enfawr.

Byddant yn ceisio rhedeg 100 milltir mewn 48 awr, gan ddechrau yng Nghastell Bamburgh yn Northumberland, a gorffen yng Nghastell Caeredin.

“Mae digwyddiadau codi arian mor bwysig i’r ambiwlans awyr gan eu bod yn dibynnu’n fawr ar roddion elusennol, felly roeddwn i wir eisiau rhoi rhywbeth yn ôl iddyn nhw,” ychwanega Paul.

“Fe wnaeth rhai ffrindiau chwerthin arnaf pan wnes i benderfynu gwneud yr her yma, nid oherwydd bod o’n afrealistig i ni, ond oherwydd ein bod ni am geisio gwneud yr holl beth ar unwaith, yn hytrach na dros sawl cymal. Ac mae hynny’n rhoi hyd yn oed mwy o bwysau arnom ni!

“Mae pawb sydd yn fy nabod yn gwybod pa mor ystyfnig ydw a phan dwi yn gwneud rhywbeth, dwi eisiau llwyr ymroi iddo, a rhoi 100% o ymdrech.”

Mae’r ddau dad o Geredigion yn ceisio codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru ac Ysbyty Plant Noah’s Ark.

Trwy eu gweithgareddau codi arian, maent hefyd yn gobeithio prynu diffibriliwr ac offer angenrheidiol i Glwb Pêl-droed Ieuenctid Llanon.

Maent wedi gosod targed o £5,000 i’w hunain, a hyd yma wedi codi £3,000. Fe fydd y ddau yn cymryd rhan yn yr her ar ddydd Sadwrn 19 Gorffennaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.