Llanelli: Cyhuddo dyn 57 oed o fod â deunydd ffrwydrol yn ei feddiant
Mae dyn 57 oed o Lanelli wedi ei gyhuddo o fod â deunydd ffrwydrol yn ei feddiant.
Roedd sawl stryd wedi eu cau a chanolfan orffwys wedi ei sefydlu ddydd Mercher wrth i'r heddlu gynnal ymchwiliad i ddeunydd ffrwydrol posib mewn tŷ yn y dref.
Roedd cordon 100 metr wedi ei osod y tu allan i dŷ ar Heol Doc Newydd yn y dref i ddiogelu’r cyhoedd, a thîm gwaredu ordnans ffrwydrol (explosive ordinance disposal) ar y lleoliad yn cynnal ymchwiliad.
Mae Timothy Jones bellach wedi ei gyhuddo o fod â deunydd ffrwydrol yn ei feddiant at bwrpas anghyfreithlon a bod â dryll yn ei feddiant.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod yn ddiolchgar i’r gymuned leol am eu cefnogaeth wrth i swyddogion gynnal eu hymchwiliad.