Dyn 72 oed mewn cyflwr difrifol wedi gwrthdrawiad rhwng beic a char
Mae dyn 72 oed yn parhau mewn cyflwr difrifol ar ôl gwrthdrawiad rhwng beic a char yng Nghaerdydd fis diwethaf.
Mae Heddlu’r De yn parhau i ymchwilio i’r gwrthdrawiad yn Dunleavy Drive, Trelluest (Grangetown) am 08.40 ddydd Sadwrn 17 Mai.
Cafodd y dyn 72 oed, oedd ar feic, ei gludo i’r ysbyty ar ôl gwrthdrawiad â char Fiat 500 glas.
Fe gafodd dyn 19 oed ei arestio yn dilyn y gwrthdrawiad ac mae wedi ei rhyddhau wrth i’r ymchwiliad barhau.
Mae swyddogion yn apelio am wybodaeth ar ôl y digwyddiad.
Mae’r llu yn apelio ar unrhyw un oedd yn yr ardal ar adeg y gwrthdrawiad, neu sydd ag unrhyw luniau dashcam o’r digwyddiad, i gysylltu â nhw gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2500155483.