Dyn o Lantrisant wedi'i garcharu am oes am ymosod ar blismyn y tu allan i orsaf heddlu
Dyn o Lantrisant wedi'i garcharu am oes am ymosod ar blismyn y tu allan i orsaf heddlu
Mae dyn o Lantrisant wedi ei ddedfrydu i garchar am oes am leiafswm o 22 mlynedd am ymosod ar blismyn y tu allan i orsaf heddlu yn Nhonysguboriau ddiwedd mis Ionawr.
Fe wnaeth Alexander Dighton, 28 oed, ymosod ar dri swyddog yr heddlu gyda chyllell, polyn pren ac arf wedi'i danio (molotov cocktail) ar 31 Ionawr.
Cafodd un swyddog ei drywanu yn ei goes, tra bod swyddog arall wedi ei daro'n anymwybodol.
Roedd yn wynebu 10 chyhuddiad i gyd oedd yn cynnwys ceisio llofruddio, ymosod gan achosi niwed corfforol, ymosod ar weithiwr brys, llosgi bwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd, bod ag arf ymosodol yn ei feddiant a dau gyhuddiad o fod â llafn yn ei feddiant.
Cyfaddefodd i ymgais i lofruddio’r Ditectif Gwnstabl Jack Cotton, ceisio achosi niwed corfforol difrifol bwriadol i Sarjant Richard Coleman, ymosod ar y Cwnstabl Joshua Emlyn a bygwth PC Stephanie Fleming â pholyn pren oedd wedi’i addasu.
Plediodd hefyd yn euog i ymgais i losgi fan heddlu, dau gyhuddiad o ddifrodi eiddo'r heddlu a chael polyn pren wedi'i addasu a chyllell yn ei feddiant.
Yn ystod yr achos llys fis Mawrth, fe wnaeth Dighton gynrychioli ei hun.
Clywodd y llys mai ei gymhelliad am yr ymosodiad ar 31 Ionawr oedd am ei fod yn dal dig gyda'r awdurdodau.
Yn Ionawr 2024, fe wnaeth chwaer Dighton ei adrodd i raglen gwrth-derfysgaeth, Prevent, oherwydd pryderon ei fod yn dal “safbwyntiau hiliol a gwrth-Fwslimaidd” ac yn debygol o fod yn gysylltiedig â grwpiau 'incel'.
Fe ddywedodd y barnwr, Mark Lucraft KC fod 'cysylltiad terfysgol' i droseddau Dighton.
“Mae’n amlwg eich bod yn parhau i ddal safbwyntiau hir-sefydlog," meddai.
“Ar wahân i bledio'n euog yn gynnar, nid oes llawer arall i’w ddweud o’ch plaid.”
Dywedodd y barnwr bod Dighton wedi ymosod ar swyddogion heddlu a oedd yn brofiadol.
Ychwanegodd: “Er eu bod yn derbyn bod trais yn bosib a bod gwrthdaro anodd yn rhan o rôl bod yn swyddog heddlu, roeddent i gyd wedi’u syfrdanu’n fawr gan natur a ffyrnigrwydd eich ymosodiad.”
Ymosodiad
Cafodd ei weld ar deledu cylch cyfyng yn cerdded ar draws y stryd i'r orsaf heddlu ar noson yr ymosodiad yn cario sach deithio fawr a pholyn pren hir.
Ychydig cyn 19:00, taniodd y molotov cocktail a’i daflu at fan yr heddlu.
Pan fethodd danio, tywalltodd y botel ar foned y fan a cheisio ei rhoi ar dân.
Aeth yn ei flaen i ddefnyddio'r polyn pren i dorri ffenestri'r fan.
Fe chwalodd y polyn cyn iddo droi ei sylw at dargedu cerbyd heddlu arall.
Fe wnaeth swyddogion Heddlu De Cymru ei herio y tu allan i'r orsaf yn fuan wedyn.
'Llond bol'
Anwybyddodd Dighton orchmynion i ollwng ei arf ac fe aeth at swyddog gan ddweud: “Dw i wedi cael llond bol, rydw i wedi gorffen.”
Cafodd y diffynnydd, a oedd yn gwisgo arfwisg ar ei gorff, ei saethu gyda gwn Taser a'i chwistrellu gyda nwy ond doedd hynny'n creu fawr ddim effaith arno wrth iddo ymosod ar swyddogion yr heddlu a geisiodd ei atal.
Chwifiodd y polyn pren at un swyddog, gan ei daro yn ei ben a thrywanu swyddog arall yn ei goes.
Cafodd dau o'r tri swyddog a anafwyd eu cludo i'r ysbyty am driniaeth.
Ar ôl cael ei arestio, dywedodd Dighton: “Rwyf wedi cael fy namnio ers fy ngenedigaeth.”