Newyddion S4C

Morwyr o long yr HMS Dragon i deithio drwy strydoedd Wrecsam

HMS Dragon

Bydd morwyr o long yr HMS Dragon yn gorymdeithio drwy strydoedd Wrecsam ddydd Gwener wrth iddyn nhw ddathlu Rhyddid y Ddinas.

Fe fydd y morwyr yn teithio trwy ganol y ddinas cyn cael eu derbyn mewn dathliad arbennig.

Cafodd yr HMS Dragon ei dynodi yn llong oedd yn gysylltiedig â Wrecsam gan y Llynges mewn seremoni ym mis Ebrill y llynedd, sef y llong ryfel gyntaf i gael y statws hynny ers yr Ail Ryfel Byd.

Mae amserlen brysur y llong a oedd yn cynnwys dinistrio taflegryn uwchsonig yn ystod ymarferion NATO oddi ar arfordir gogledd-orllewin yr Alban ym mis Mai – wedi atal morwyr y llong rhag dod i ddathlu derbyn Rhyddid y Ddinas.

Ers derbyn yr anrhydedd y llynedd, mae'r llong o 200 o bobl wedi bod yn paratoi ar gyfer yr ymweliad â’i thref enedigol, gan gynnwys ymgymryd â hyfforddiant dril penodol i gyrraedd y safonau uchaf sy’n ofynnol ar gyfer yr orymdaith.

Cyn yr orymdaith, bydd y rhengoedd yn cael eu harchwilio gan Faer Wrecsam, y Cynghorydd Tina Mannering, a fydd hefyd yn derbyn cyfarchiad y morwyr sy’n gorymdeithio yn Sgwâr y Frenhines ochr yn ochr â’r Swyddog Rheoli, y Cadlywydd Iain Giffin.

Dywedodd y Cadlywydd Giffin: “Nid oes anrhydedd fwy y gall dinas ei rhoi na Rhyddid y Ddinas ac rwy’n teimlo’n ostyngedig bod Wrecsam wedi ymestyn y fraint hon i HMS Dragon.

“Mae heddiw yn foment falch i HMS Dragon ac yn gyfle addas i ddangos proffesiynoldeb ein morwyr, yn gorymdeithio mewn gwisg seremonïol lawn, gyda drymiau’n curo, baneri’n chwifio a bidogau wedi’u gosod, fel arwydd o barch a diolchgarwch i bobl Wrecsam.”

Bydd y morwyr yn gorymdeithio i lawnt Llwyn Isaf (y tu allan i Neuadd y Dref) am 10:40, cyn gorymdeithio drwy ganol y ddinas.

Wrth gael eu henwi'n Rhyddfreinwyr Wrecsam, mae'r morwyr mewn cwmni eraill gan gynnwys y sêr Hollywood a pherchnogion Wrecsam, Ryan Reynolds a Rob McElhenney.

Bydd rhai ffyrdd wedi'u cau dros dro a chyfyngiadau mynediad ar waith o 10:55am ar y diwrnod (dydd Gwener Mehefin 13), gan gynnwys Stryd Caer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.