Rhybudd am fellt a tharanau i’r rhan fwyaf o Gymru ddydd Iau
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn ar gyfer stormydd mellt a tharanau i’r rhan fwyaf o Gymru ddydd Iau.
Bydd y rhybudd mewn grym o hanner nos nes 13:00 ar draws Cymru heblaw am rannau o ogledd y canolbarth a’r gogledd-ddwyrain.
“Bydd glaw trwm a stormydd mellt a tharanau yn symud tua'r gogledd, gan arwain o bosibl at rywfaint o darfu ar deithio mewn rhai ardaloedd,” meddai y Swyddfa Dywydd.
“Efallai y bydd rhai ardaloedd yn derbyn 10-20 mm o law mewn awr, a 30-40 mm mewn tair awr neu lai, gan arwain at aflonyddwch.
“Bydd gwyntoedd cryfion hefyd ar adegau, efallai hyd at 40-50 mya o amgylch y bryniau a'r arfordiroedd.”
Fe fydd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Abertawe
- Blaenau Gwent
- Bro Morgannwg
- Caerdydd
- Caerffili
- Casnewydd
- Castell-nedd Port Talbot
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Merthyr Tudful
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Benfro
- Sir Fynwy
- Sir Gaerfyrddin
- Torfaen
- Ynys Môn