Newyddion S4C

Angen i ymgeiswyr Reform gefnogi datganoli meddai Farage

ITV Cymru
Nigel Farage yng Nghymru

Bydd rhaid i ymgeiswyr Reform yn etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf gefnogi datganoli, yn ôl arweinydd y blaid Nigel Farage.

Holodd ITV Cymru a fyddai Mr Farage yn fodlon caniatáu ymgeiswyr “gwrth-ddatganoli” ar gyfer etholiad y Senedd.

Dywedodd na fyddai ac “wrth gwrs” y byddai angen i’w ymgeiswyr dderbyn nad oedd modd cael gwared ar ddatganoli yng Nghymru.

“Na, na - mae’r llong yna wedi hwylio yn llwyr,” meddai wrth raglen Sharp End. “Does yna ddim lle ar gyfer hyn.

“Rydyn ni wedi gweld datganoli ar draws sawl rhan o Loegr hefyd.

“Mae’n bryd i bawb yng Nghymru dderbyn - mae hyn wedi digwydd.

“Dyw’r cloc ddim yn mynd i gael ei droi yn ôl. Mae’n fater o sut ydan ni’n ei wneud orau.”

Bydd etholiad nesaf y Senedd ym mis Mai 2026, gyda nifer y seddi yn y Senedd yn cynyddu o 60 i 96.

Roedd arolwg barn a gyhoeddwyd gan ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd ym mis Mai yn rhoi Plaid Cymru ar y blaen ar 30%, gyda Reform ar 25%, a Llafur ar 18%.

Wrth ymweld â Phort Talbot ddydd Llun dywedodd Nigel Farage mai nod y blaid oedd “ail-ddiwydiannu” Cymru.

“Caeodd Llafur unig ffwrneisi gwneud dur craidd Cymru, rydym am eu hagor yn y tymor hir,” meddai.

“Rydym wedi dweud ac yn dweud eto ein bod yn credu ei bod yn well defnyddio glo Prydeinig ar gyfer dur Prydain na glo wedi'i fewnforio.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.