Newyddion S4C

Cysgu ar y stryd yng Nghymru 'ddim yn erbyn y gyfraith yn y dyfodol'

Digartrefedd

Ni fydd cysgu ar y stryd yng Nghymru a Lloegr 'yn erbyn y gyfraith yn y dyfodol'.

Daw hyn wedi i Lywodraeth y DU gael gwared ar Ddeddf Gardota sydd wedi bod mewn grym ers 200 o flynyddoedd. 

Fe gafodd y gyfraith ei chyflwyno ym 1824 i fynd i'r afael â digartrefedd cynyddol, ond mae'r Dirprwy Brif Weinidog Angela Rayner wedi ei galw'n "greulon ac yn hen ffasiwn".

Mae cynllun y llywodraeth yn cynnwys deddfwriaeth newydd a fydd yn targedu troseddau fel gangiau sy'n begera.

Ychwanegodd Ms Rayner fod y llywodraeth yn symud ymlaen o "bron i ddwy ganrif o anghyfiawnder tuag at rai o'r rhai mwyaf bregus yn y gymdeithas".

"Ni ddylai neb gael ei droseddu am gysgu ar y stryd a thrwy gael gwared ar y gyfraith greulon a hen ffasiwn hon, rydym yn sicrhau na fydd hynny yn digwydd eto," meddai.

Dywedodd ymgyrchwyr nad cosbi'r rhai mwyaf bregus fu'r ateb erioed ac yn lle hynny mae angen mynd i'r afael yn iawn â digartrefedd.

Dywedodd Prif Weithredwr elusen Crisis, Matt Downie: "Mae hon yn foment allweddol a fydd yn newid bywydau ac yn atal miloedd o bobl rhag cael eu gwthio i’r cysgodion, i ffwrdd o ddiogelwch."

Yn ôl ystadegau Llywodraeth y DU, roedd cyfanswm o 79 o erlyniadau a 59 o euogfarnau am droseddau yn ymwneud â chysgu ar y stryd yn 2023.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.