Newyddion S4C

Prydain efo'r cyfnod magu babanod 'gwaethaf' medd adroddiad

10/06/2025
Babi

Mae gan Brydain un o'r "cyfnodau tadolaeth statudol gwaethaf i dadau a rhieni eraill yn y byd datblygedig".

Dyna mae cadeirydd Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb yn dweud.

Mewn adroddiad newydd mae'r pwyllgor yn dweud bod yr uchafswm o bythefnos o gyfnod magu babanod "ddim yn cyd fynd gyda sut mae mwyafrif o gyplau eisiau rhannu eu cyfrifoldebau o fagu plant".

Mae hefyd yn "cadarnhau stereoteip rhyw ynglŷn â gofalu".

Mae'r pwyllgor yn annog y llywodraeth i un ai diwygio'r Ddeddf Hawliau Cyflogaeth fel bod modd i berson gael yr hawl i gyfnod i ffwrdd o'r gwaith o'r dechrau neu i "ystyried y newid allweddol yma o fewn eu hadolygiad" wrth iddynt ymgynghori gyda chyflogwyr.

Mae disgwyl i Lywodraeth y DU gynnal adolygiad ar y mater cyn bo hir. 

Maent hefyd wedi galw ar y llywodraeth i ystyried codi cyflog tadolaeth i'r un lefel a mamolaeth am y chwe wythnos gyntaf sef 90% o gyflog cyfartalog person.

Mae'r adroddiad yn nodi bod rhieni sydd yn gweithio yn mynd i "gael eu gadael i lawr gydag adolygiad sydd mond yn mynd i wneud mân newidiadau i'r system"

Yn ôl cadeirydd y pwyllgor, yr AS Llafur Sarah Owen mae angen cyfnod ar ôl geni i'r ddau riant sydd yn "para yn hirach ac yn talu'n well".

Ychwanegodd: "Tra byddai newid sylweddol sydd wir ei angen i'r system absenoldeb rhiant yn golygu buddsoddiad ariannol sylweddol, fe fyddai y buddion economaidd a chymdeithasol yn golygu bod hyn werth y buddsoddiad."

Mae'r adroddiad yn dweud bod y cyflog sydd yn cael ei gynnig tra mae rhywun i ffwrdd o'r gwaith yn magu plant ar y funud "allan o drefn gyda chostau byw" ac yn llawer is na'r cyflog sydd yn cael ei gynnig gan wledydd eraill. 

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.