Newyddion S4C

Cyhuddo dyn o Aberystwyth o droseddau rhyw a gyrru wedi apêl heddlu

09/06/2025
Gareth Edwards

Mae person wedi ei arestio yn dilyn apêl gan yr heddlu am leoliad dyn o Aberystwyth.

Cafodd Gareth Edwards ei arestio ar 7 Mehefin ac mae wedi ei gyhuddo o ddau achos o ymosod yn rhywiol, gyrru heb yswiriant a gyrru cerbyd yn groes i reolau ei drwydded.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi diolch i'r cyhoedd a'r cyfryngau am eu cymorth gyda'u hymchwiliad.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.