Gorchymyn protestwyr i adael canol Los Angeles
Mae protestiadau yn erbyn cyrchoedd ar fewnfudwyr heb ddogfennau yn parhau yn Los Angeles am y trydydd diwrnod, gyda'r heddlu yno'n dweud bod canol y ddinas yn Nghaliffornia bellach yn ardal "ymgynnull anghyfreithlon".
Mae Heddlu Los Angeles wedi rhybuddio trigolion, busnesau ac ymwelwyr yng nghanol y ddinas i "fod yn effro ac adrodd unrhyw weithgarwch troseddol".
"Mae swyddogion yn ymateb i sawl lleoliad gwahanol i wasgaru torfeydd," meddai llefarydd mewn datganiad ar X.
"Mae cynulliad anghyfreithlon mewn grym ar gyfer ardal y Ganolfan Ddinesig [yng nghanol dinas Los Angeles]."
Mewn ail ddatganiad, dywedodd yr heddlu bod "canol dinas Los Angeles wedi ei ddatgan yn gynulliad anghyfreithlon".
"Mae'n rhaid i chi adael ardal canol y ddinas ar unwaith," meddai'r llefarydd.
Dywedodd yr heddlu bod cerbydau wedi cael eu rhoi ar dân a bod rhai adroddiadau o ddwyn.
Cafodd ffotograffydd newyddion o Brydain ei daro gan fwledi nad ydynt yn angheuol yn ystod y protestiadau.
Dywedodd Nick Stern, sydd wedi bod yn byw yn Los Angeles ers 2007, wrth asiantaeth newyddion PA bod "bwled sbwng" 14mm wedi taro ei glun.
"Fy mhryder cychwynnol oedd, oedden nhw'n tanio bwledi byw?" meddai.
"Daeth rhai o'r protestwyr i'm helpu ac fe wnaethant fy nghario, a sylwais fod gwaed yn tywallt i lawr fy nghoes."
Cafodd ei drin gan feddyg a'i hanogodd i fynd i'r ysbyty. Mae bellach wedi cael llawdriniaeth ar ei goes.
Pam fod pobl yn protestio?
Daw'r protestio diweddar ar ôl i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump gyhoeddi y byddai'n anfon 2,000 o filwyr y Gwarchodlu Cenedlaethol i Galifornia i fynd i'r afael â'r aflonyddwch, a ddechreuodd ddydd Gwener yng nghanol dinas Los Angeles.
Cafodd nwy dagrau ei ddefnyddio i wasgaru torfeydd wrth i rai o drigolion ardal Paramount wrthdaro â swyddogion mewnfudo a thollau ddydd Sadwrn.
Erbyn dydd Sul, roedd Mr Trump wedi galw ar filwyr Gwarchodlu Cenedlaethol America i ymyrryd.
Dywedodd Ysgrifennydd y Wasg yn y Tŷ Gwyn, Karoline Leavitt fod y penderfyniad yn "hanfodol i atal a gwrthdroi goresgyniad troseddwyr anghyfreithlon".
Mae Llywodraethwr California, Gavin Newsom, wedi condemnio'r cyrchoedd fel rhai "creulon".
Dywedodd Mr Newsom fod gweithred y llywodraeth ffederal i "gymryd drosodd Gwarchodlu Cenedlaethol California a defnyddio 2,000 o filwyr" yn "ymfflamychol yn fwriadol" a byddai ond yn "cynyddu tensiynau".
Fel arfer, llywodraethwr talaith sy'n galw'r Gwarchodlu Cenedlaethol.
Ond mae Mr Trump wedi defnyddio trefn sy'n caniatáu iddo gymryd rheolaeth ei hun, meddai swyddfa Gavin Newsom.
Mae protestwyr wedi bod yn protestio yn erbyn cyrchoedd ar fewnfudwyr heb ddogfennau gan weinyddiaeth Trump.
Fis diwethaf roedd y cyrchoedd yn bwriadu cadw hyd at 3,000 o bobl y dydd yn y ddalfa er mwyn eu prosesu.
Llun: Reuters