
'Rhan annatod o Langollen': Gweddw Pavarotti yn ymweld â'r Eisteddfod Ryngwladol
Bydd gweddw'r seren opera, Luciano Pavarotti yn ymweld ag Eisteddfod Ryngwladol Llangollen eleni wedi i’r ŵyl ysbrydoli ei gŵr gyda’i yrfa byd enwog.
Mae Nicoletta Mantovani yn dweud y bydd y profiad yn un “emosiynol iawn” gan fod ei gŵr wedi sôn am bwysigrwydd yr ŵyl iddo cyn ei farwolaeth.
“Dywedodd Luciano wrthyf na fyddai ei yrfa wedi bod yn bosibl heb ei ymddangosiad cyntaf yno yn 1955,” meddai.
"Byddai'n dweud wrthyf yn aml, sut nad oedd ei gôr yn disgwyl ennill, sut roedden nhw'n aros am ddyfarniad y beirniaid ac yn gyntaf enwyd y côr a oedd yn y chweched safle, yna y côr yn y pumed safle ac yn y blaen.
“Roedden nhw'n nerfus dros ben ond pan gyhoeddwyd yr ail safle a’u henw nhw heb gael ei alw, roedden nhw'n gwybod eu bod wedi ennill ac roedden nhw'n crio mewn llawenydd.”
Bydd Ms Mantovani yn teithio o'i chartref yn yr Eidal i gyflwyno dau dlws yn ystod yr ŵyl.
Fe fydd hi’n cyflwyno Tlws Pavarotti, a enwyd i gofio am ei diweddar ŵr, i enillwyr Cystadleuaeth Côr y Byd.
Bydd hefyd yn cyflwyno Tlws Pendine i enillydd cystadleuaeth Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine, ar ddiwedd rownd terfynol y gystadleuaeth ar y nos Sul olaf o'r Eisteddfod.
Yn ogystal bydd Syr Bryn Terfel a noddwyr y wobr eleni, Mario Kreft MBE a'i wraig, Gill yn cyflwyno'r tlws.
Yn ystod ei hymweliad fe fydd Ms Mantovani hefyd yn nodi sawl carreg filltir bwysig, gan gynnwys 70 mlynedd ers profiad cyntaf Pavarotti o'r ŵyl, 30 mlynedd ers ei ymddangosiad cofiadwy yn 1995 a'r hyn fyddai wedi bod ei ben-blwydd yn 90 oed ar Hydref 12 eleni.

'Diwrnod mwyaf cofiadwy fy mywyd'
Yn 19 oed ar y pryd, roedd Pavarotti yn athro dan hyfforddiant pan ddaeth i Eisteddfod Llangollen yn 1955 gyda'i dad, Fernando. Fe ddaeth y ddau fel rhan o Gorws Rossini, o'u dinas enedigol, Modena.
Roedd yn benderfynol o gael gyrfa yn y byd cerddoriaeth yn dilyn ei fuddugoliaeth.
Fe ddywedodd yn ddiweddarach mai ennill yn Llangollen oedd y gwreichion a daniodd ei freuddwyd.
Pan ddaeth yn ôl fel seren byd-enwog ar gyfer cyngerdd arbennig yn 1995, dywedodd: "Rydw i bob amser yn dweud wrth newyddiadurwyr pan maen nhw'n gofyn i mi beth yw diwrnod mwyaf cofiadwy fy mywyd, mai yr adeg yr enillais y gystadleuaeth hon oherwydd roeddwn yma gyda fy holl ffrindiau."
Dywedodd John Gambles, Cadeirydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen: "Mae etifeddiaeth Luciano wedi bod yn rhan annatod o Langollen ers amser maith, ac mae anrhydeddu'r cysylltiad hwnnw wrth ddathlu ei fywyd a'i gerrig milltir rhyfeddol yn fraint go iawn i ni i gyd."
Dywedodd ei fod yn “falch iawn” o groesawu Ms Mantovani i’r ŵyl a’i fod yn gwerthfawrogi ei rôl eleni.