Nifer y palod ar Ynys Sgomer yn Sir Benfro wedi torri record
Nifer y palod ar Ynys Sgomer yn Sir Benfro wedi torri record
Mae nifer y palod ar Ynys Sgomer yn Sir Benfro wedi torri record.
Mae dros 43,000 o adar yn byw yno, sef y nifer fwyaf erioed i gael eu cyfri ar yr ynys.
Er bod llai o balod dros y byd, mae'r nifer ar Ynys Sgomer yn dal i dyfu.
Mae Ynys Sgomer, oddi ar arfordir Sir Benfro, yn cael ei hadnabod fel un o’r ynysoedd adar môr pwysicaf yn y byd.
Yn 2023, cafodd 42,513 o balod eu cofnodi ar yr ynys, ond eleni, maen nhw wedi torri record newydd, gyda 43,626 o balod yn byw yno erbyn hyn.
Maen nhw'n cael eu cyfri gan chwe aelod o staff sy’n gofalu am yr ynys a hynny i fonitro’r boblogaeth o balod sy’n dychwelyd i’r ynys bob gwanwyn i fridio.
Mae’r adar môr yn cael eu cyfri yn y nos ac yn gynnar yn y tymor oherwydd bod mwy o balod yn gyffredinol o amgylch yr ynys yr adeg hynny, a phan na fydd yr adar yn eu tyllau (barrows) yn barod.
Ond gyda’r palod ar Restr Goch fyd-eang o greaduriaid sydd dan fygythiad, wrth wynebu llygredd, prinder bwyd a newid hinsawdd, pam a sut eu bod yn ffynnu yn Sir Benfro?
Mae mwy o balod yma yn debygol, am fod digonedd o fwyd yn yr ardal, sy’n golygu bod digon o bysgod i gywion bach.
Does dim llygod mawr ar yr ynys – sy’n golygu nad oes yna unrhyw fygythiad i adar ar yr ynys.
Mae rhaglenni monitro adar môr ac ymchwil blynyddol ar Sgomer yn hollbwysig yn ôl arbenigwyr, a’r ymdrech i barhau i’w gwarchod, yn bwysicach nag erioed.
Dywedodd Lisa Morgan, Pennaeth Ynysoedd a Chadwraeth Forol Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru ei bod "wrth ei bodd" yn gweld y llu o adar yn defnyddio’r ynys.
“Fodd bynnag, rydym yn parhau i bryderu am y pwysau cynyddol ar lawer o rywogaethau adar môr.
"Mae bygythiadau newydd sy’n wynebu ein hadar môr yn cynnwys ffliw adar a’r cynnydd yng ngwres y môr sydd wedi ei brofi yn ddiweddar o amgylch rhannau o arfordir y DU."