Rheolau llymach ar ail gartrefi yn un o bolisïau 'mwyaf arloesol' cyngor
Cyflwyno rheolau llymach ar ail gartrefi yw un o'r polisïau "mwyaf arloesol" yn hanes Cyngor Gwynedd yn ôl aelod o'r cabinet.
Dywedodd y Cynghorydd Craig ap Iago, aelod y cabinet dros yr amgylchedd a chyn aelod y cabined dros dai, bod y cyngor wedi gorfod delio gydag argyfwng digartrefedd "enfawr" yn y sir.
Ychwanegodd y cynghorydd Plaid Cymru sydd yn cynrychioli Pen-y-groes mai'r gobaith wrth gyflwyno Erthygl 4 a phremiwm treth tai oedd gwyrdroi'r dystiolaeth oedd yn dangos bod pobl ifanc yn gadael Gwynedd oherwydd prisiau tai uchel.
Mae Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn galluogi awdurdod cynllunio lleol i fynnu fod perchnogion eiddo yn derbyn hawl cynllunio cyn newid defnydd eu heiddo i ail gartref neu lety gwyliau tymor byr.
Mae rhai sydd yn beirniadu'r polisi yn dweud bod pob perchennog eiddo yn cael eu heffeithio gan fod gwerth eu heiddo yn gostwng.
Eu dadl nhw yw y byddai rhan fwyaf o dai a fyddai wedi bod yn ail gratrefi neu lety gwyliau dal yn rhy ddrud i bobl leol hyd yn oed os ydy prisiau yn gostwng.
'Unigryw'
Dywedodd Mr ap Iago bod y sefyllfa yng Ngwynedd yn un unigryw.
"Ar ddiwedd y dydd, mae hyn am greu tai i bobl ifanc i fyw ynddynt," meddai.
"Dwi eisiau pobl i ddeall, dydyn ni ddim yn fwystfilod yn erbyn lletyau gwyliau neu AriBnBs, mae llawer ohonom yn eu defnyddio gyda'n teuluoedd fan hyn ac ar ein gwyliau.
"Mae'r sefyllfa yng Ngwynedd yn un unigryw - rydym yn wynebu problem ddigartrefedd enfawr gyda llawer ar restrau aros am dai.
"Ond, mae gennym ni nifer fawr o letyau gwyliau ac ail dai, llawer mwy nag y mae 'na mewn ardaloedd eraill."
Ychwanegodd: "Yr unig beth rydym yn ceisio gwneud yw rheoli sefyllfa tai ein hun a chyfyngu'r nifer o letyau gwyliau.
"Dydyn ni ddim eisiau cael gwared ohonynt yn gyfan gwbl, mae twristiaeth yn rhan hanfodol o'r economi yma yng Ngwynedd.
"Rydym yn gwybod bod y sefyllfa ddigartrefedd go iawn llawer gwaeth na'r hyn mae ffigyrau yn eu dangos.
"Rydym ni eisiau creu sefyllfa yng Ngwynedd lle mae pob un person yn cael cyfle teg i fyw mewn tŷ go iawn."
'Arian trethdalwyr'
Mae ymchwil diweddar gan y cyngor yn dangos bod 65.5% o boblogaeth y sir wedi eu prisio allan o'r farchnad tai.
Mewn llefydd ar Benrhyn Llŷn fel Abersoch, Aberdaron, Botwnnog a Thudweiliog, mae rhwng 90% a 96% o bobl leol methu fforddio prynu tŷ.
Yn ddiweddar, mae grŵp sydd yn gwrthwynebu Erthygl 4 yng Ngwynedd wedi codi arian i dalu am adolygiad barnwrol.
Ym mis Tachwedd y llynedd gwrthodwyd caniatâd i ymgyrch People of Gwynedd Against Article 4 (PGAA4) i ddwyn adolygiad barnwrol yn erbyn penderfyniad y cyngor.
Ond ym mis Chwefror roedd barnwr wedi dyfarnu bod modd i'r adolygiad gael ei gynnal.
Mae disgwyl i'r achos gychwyn ar 23 Mehefin.
Pryder Craig ab Iago wrth fynd i'r llys i amddiffyn eu penderfyniad yw costau'r sydd ynghlwm â'r achos.
"Fy mhryder efo hyn i gyd yw bod y grŵp yma yn ceisio ein hatal, mynd a ni i'r llys, fe fydd yn costio arian," meddai.
"Mae'n arian sydd yn cael eu cymryd i ffwrdd o'r cyngor allai gael ei ddefnyddio i helpu pobl, ac mae'n arian y trethdalwr.
"Ar ddiwedd y dydd, beth bynnag sydd yn digwydd yn y llys, rydym ni eisiau i bobl i ddeall ein rhesymau tu ôl i Erthygl 4."
Premiwm 150%
Fydd perchnogion eiddo oedd yn cael ei ddefnyddio fel ail dŷ neu lety gwyliau cyn 1 Medi 2024 ddim yn cael eu heffeithio gan Erthygl 4.
Ar ôl y dyddiad hwnnw mae unrhyw un sydd eisiau newid eu heiddo i ail dŷ neu lety gwyliau byrdymor angen caniatâd cynllunio.
Hefyd mae'r cyngor wedi cyflwyno premiwm treth 150% ar ail dai a 100% premiwm ar dai gwag hir-dymor.
Mae'r awdurdod lleol hefyd wedi cyflwyno Cynllun Gweithredu Tai sy'n defnyddio'r arian o'r premiwm sydd wedi eu codi ar ail dai a thai gwag i fynd i'r afael â'r argyfwng tai.
Mae'r cynllun yn cynnwys dros 30 o wahanol elfennau, gan gynnwys atal digartrefedd, cynyddu nifer y tai cymdeithasol sydd ar gael i ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd a helpu prynwyr tro cyntaf.
Prosiect arall dan y cynllun yw Tŷ Gwynedd, sef cynllun y cyngor i adeiladu eu tai eu hunain am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd.
Mae rhai eisoes ar y gweill ym Mangor a Llanberis, gydag ardaloedd eraill wedi'u clustnodi ar gyfer adeiladu tai newydd yn fuan.
Gwnaeth Parc Cenedlaethol Eryri'r penderfyniad i gyflwyno Erthygl 4 yn ddiweddar hefyd.
O 1 Mehefin, 2025, daeth yn weithredol o fewn ardaloedd y Parc Cenedlaethol.
Mae rhai cynghorau sir eraill yng Nghymru hefyd yn trafod y pwnc ac yn ystyried cyflwyno'r canllawiau newydd.
Yr wythnos nesaf bydd cabinet y cyngor yn cyfarfod i drafod newidiadau i'w ganllawiau cynllunio atodol.
Mae'n dilyn cyfnod o ymgynghori cyhoeddus, cafodd ei gynnal rhwng Chwefror 24 ac Ebrill 7 y llynedd.