Newyddion S4C

Rheilffyrdd: Cymru 'dan anfantais' wrth gystadlu â Lloegr

Ken Skates

Mae Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru wedi dweud bod angen newid system lle mae Cymru yn cystadlu am fuddsoddiad yn ei rheilffyrdd gyda Lloegr.

Daw sylwadau Ken Skates yn dilyn ffrae dros ddynodi rheilffordd newydd £6.6bn rhwng Caergrawnt a Rhydychen yn brosiect 'Cymru a Lloegr'.

Nid yw buddsoddiad yn y rheilffyrdd yn faes sydd wedi ei ddatganoli i Gymru gan olygu bod y buddsoddiad yn dod o gronfa’r Adran Drafnidiaeth.

Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon maen nhw’n cael arian ychwanegol ar sail poblogaeth pan mae buddsoddiad yn y rheilffyrdd yn Lloegr.

Wrth siarad yn y Senedd dywedodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru, Ken Skates, fod y system bresennol lle'r oedd holl gynlluniau Cymru a Lloegr "wedi eu pecynnu gyda'i gilydd" wedi “cyfyngu ar fuddsoddiad” yng Nghymru.

“Mae'n golygu y bydd prosiectau yng Nghymru bob amser yn cystadlu ar yr achos busnes â phrosiectau mewn ardaloedd cyfoethog yn ne-ddwyrain Llundain,” meddai.

“Mae hynny'n golygu ein bod ni dan anfantais.

“Mae'r ffordd y mae'r system yn gweithredu ar hyn o bryd - ac rydw i wedi bod yn dweud hyn ers blynyddoedd - yn ddiangen ac mae angen ei newid.”

Serch hynny fe fyddai angen bod yn “amyneddgar” a gweld pa fuddsoddiad fyddai yn dod i reilffyrdd Cymru yn Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU'r wythnos nesaf, meddai.

Mae disgwyl y gallai hynny gynnwys buddsoddiad mewn gorsafoedd newydd o amgylch Caerdydd a Chasnewydd.

“Tua’r adeg yma'r wythnos nesaf y byddwn ni'n gwybod y cynnwys,” meddai Ken Skates.

“Rydyn ni wedi gwneud popeth o fewn ein gallu, gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Lafur newydd y DU, i gyflwyno'r achos gorau posibl dros fuddsoddi ar draws rhwydwaith rheilffyrdd Cymru,” meddai. 

‘Eithriad’

Ddydd Mawrth fe wnaeth y Prif Weinidog Eluned Morgan ac arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth ddadlau yn y Senedd ar bwnc buddsoddi yn rheilffyrdd Cymru.

Roedd Plaid Cymru wedi dweud bod y prosiect rhwng Caergrawnt a Rhydychen yn “HS2 yr ail” gan gyfeirio at y rheilffordd o Lundain i Birmingham a gafodd ei dynodi yn brosiect 'Cymru a Lloegr'.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth bod Eluned Morgan wedi “caniatáu i Gymru gael bargen wael unwaith eto” gan Lywodraeth y DU.

Ymatebodd Eluned Morgan nad oedd Plaid Cymru yn deall sut oedd datganoli yn gweithio, ac nad oedd y seilwaith rheilffyrdd wedi ei ddatganoli i Gymru.

“Ydyn ni'n cael ein cyfran deg? Nag ydyn,” meddai hi.

“Ond rydyn ni'n cyflwyno'r achos yn bendant ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gweld rhywfaint o gydnabyddiaeth o hynny drwy'r Adolygiad Gwariant. 

“Yn wahanol i'r Torïaid, mae cydnabyddiaeth bod tanfuddsoddi enfawr wedi bod o dan y Ceidwadwyr. 

“Mae’r rheilffordd Rhydychen i Gaergrawnt yn rhan o'r seilwaith rheilffyrdd ehangach hwnnw. 

“Roedd prosiect HS2 yn eithriad i hynny, a dyna pam rydyn ni'n cyflwyno'r achos mewn ffordd ar wahân.”

Fe ymatebodd Rhun ap Iorwerth drwy ddweud bod y Prif Weinidog “yn y pen draw” wedi dweud bod y modd y cafodd HS2 ei ariannu yn annheg “ond rydych chi’n amddiffyn rheilffordd Caergrawnt i Rydychen”.

“Gadewch i ni fod yn glir iawn, iawn am beth sydd gyda ni, sef sefyllfa lle mae Llafur yn derbyn beth bynnag y mae Keir Starmer yn dweud y dylai Cymru fod yn ddiolchgar amdano,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.