
Rhieni yn mynd â bwrdd iechyd yn y de i'r llys wedi marwolaeth eu babi
Rhybudd: Mae’r erthygl yma yn cynnwys manylion all beri gofid
Mae mam a dad wedi dweud eu bod yn mynd â bwrdd iechyd yn y de i’r llys wedi i’w baban farw oriau yn unig ar ôl ei genedigaeth.
Bu farw Liliwen Iris Thomas ym mis Hydref 2022 yn dilyn cymhlethdodau yn ystod ei genedigaeth.
Fe fuodd hi farw 20 awr ar ôl iddi gael ei geni yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Mae ei rhieni, Emily Brazier a Rhodri Thomas o Gaerdydd, bellach wedi penderfynu lansio achos sifil yn erbyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Roedd beichiogrwydd Ms Brazier wedi cael ei chategoreiddio fel ‘risg uchel’ meddai’r pâr.
Roedd meddygon wedi bod yn monitro Ms Brazier cyn iddi roi genedigaeth yn sgil ei chyflwr, ychwanegon nhw.
Ond mae’r pâr yn honni bod Ms Brazier wedi cael ei gadael ar ei phen ei hun i roi genedigaeth.
“Mae gen i atgofion niwlog iawn o’r cyfnod esgor ond dwi’n cofio’n glir iawn, tynnu’r dillad gwely yn ôl a gweld Liliwen yno, yn gwbl lonydd a difywyd,” medd Ms Brazier.
“Fe fydd y ddelwedd yna gyda’i am byth. Dwi dal yn cael hunllefau a dwi wedi bod yn derbyn sesiynau cwnsela ers iddo ddigwydd.”

'Cyfiawnder'
Doedd Mr Thomas ddim yn bresennol yn ystod genedigaeth ei ferch.
Doedd yr uned mamolaeth ddim yn caniatáu partneriaid i aros yno dros nos os nad oedd eu partner yn esgor.
Doedd Ms Brazier ddim yn esgor pan wnaeth Mr Thomas adael.
Mae’n dweud ei fod yn difaru peidio bod yno oherwydd y gallai fod wedi rhoi gwybod i’r bydwragedd am gyflwr Ms Brazier.
Toc cyn hanner nos ar 9 Hydref, mae Ms Brazier yn dweud ei bod hi wedi derbyn meddyginiaethau i leddfu ei phoen. Fe wnaeth hi ddeffro ychydig wedi 02.00 y bore i ddarganfod ei bod wedi rhoi genedigaeth i’w merch.
Fe gafodd Liliwen ei thrin yn uned gofal dwys newyddenedigol yr ysbyty ond bu farw yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
Mae’r cwpwl bellach yn mynd a’r bwrdd iechyd i’r llys gyda chymorth eu cyfreithwyr o gwmni Slater and Gordon.
Dywedodd Laura Bennett o’r cwmni: “Rydym yn cefnogi Emily a Rhodri ym mhob ffordd y gallwn ni er mwyn sicrhau cyfiawnder i’w merch.”
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro bod eu “cydymdeimladau dwysaf gyda’r teulu yn ystod y cyfnod heriol hwn.”
“Mae’r bwrdd iechyd yn ymwneud yn llawn â phroses y cwest a byddai’n amhriodol gwneud sylw pellach nes bod y cwest wedi dod i ben.”
Llun: PA Wire