Y fyddin yn ffrwydro cemegau ‘allai achosi niwed’ mewn ysgol
Fe gafodd y fyddin eu galw i ysgol yng ngogledd Cymru er mwyn ffrwydro cemegau “allai achosi niwed” yno.
Dywedodd Ysgol Uwchradd Dinbych eu bod nhw wedi gwagio’r adeilad ddydd Mawrth “ar ôl dod o hyd i gemegau”.
Dywedodd yr ysgol cyfrwng Saesneg sy'n addysgu tua 500 o ddisgyblion bod y cemegau “hanesyddol” wedi eu darganfod mewn cwpwrdd storio yn yr adran wyddoniaeth.
Fe gadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru yn ddiweddarach fod uned gwaredu ordnans ffrwydrol (EOD) y Fyddin Brydeinig wedi ei galw.
“Gallwn gadarnhau bod y Tîm Gwaredu Ordnans Ffrwydrol (EOD) wedi bod yno ac wedi symud yr eitemau'n ddiogel ac wedi cynnal ffrwydrad oedd wedi ei reoli yn llwyddiannus,” medden nhw.
“Nid oes unrhyw broblemau diogelwch ehangach ac mae swyddogion bellach wedi gadael y fan a’r lle.
“Diolch i'r gymuned leol am eu dealltwriaeth a'u hamynedd tra ein bod ni’n ymdrin â’r mater yma - diolch yn fawr iawn.”
Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd yr ysgol fod y penderfyniad i wacau'r ysgol wedi ei wneud er mwyn “diogelu pob aelod o gymuned yr ysgol”.
Fe deithiodd y disgyblion adref fel arfer ar ddiwedd y diwrnod ysgol, meddai llefarydd ar ran yr ysgol.
Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych bod cemegyn “allai achosi niwed” wedi ei ddarganfod.
Cafodd arbenigwyr eu galw er mwyn sicrhau bod y cemegyn yn cael ei waredu'n ddiogel ac yn briodol, medden nhw.
Gadawodd y disgyblion a staff yr ysgol yn ddiogel, yn ôl y cyngor sir.