Cystadleuydd rhaglen Race Across The World wedi marw yn 24 oed
Mae cyn cystadleuydd ar raglen Race Across The World, Sam Gardiner wedi marw yn 24 oed mewn damwain car.
Dywedodd yr heddlu fod y ddamwain car wedi digwydd ar yr A34 yn Gatley, ger Cheadle yng ngogledd orllewin Lloegr nos Lun.
"Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r lleoliad yn dilyn adroddiad bod cerbyd wedi gadael y ffordd a rholio cyn glanio ar ei ochr," meddai llefarydd.
Gardiner oedd yr unig berson yn y cerbyd ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty lle bu farw o’i anafiadau ddydd Iau, meddai ei deulu.
Fe wnaeth y garddwr ifanc ymddangos gyda’i fam ar ail gyfres y rhaglen BBC yn 2019 wrth iddyn nhw deithio ar draws De America.
Mewn datganiad, dywedodd ei fam Jo a’i dad Andrew: "Rydym wedi cael ein syfrdanu gan golled ein mab annwyl Sam mewn damwain ddifrifol.
"Fe wnaeth Sam ein gadael ni’n llawer rhy fuan, ac er na fydd geiriau byth yn gallu cyfleu'r goleuni, llawenydd a’r egni a ddaeth i’n bywydau, rydym yn dal ein gafael yn yr atgofion a’i gwnaeth mor arbennig.
"Roedd Sam yn cael ei garu'n fawr gan ei deulu. Fel mab, brawd a nai, roedd yn ffyddlon, yn ddoniol ac yn hynod amddiffynnol."
'Twll mawr yn ein calonnau'
Ychwanegodd y teulu fod cymryd rhan yn Race Across The World "wedi agor ei lygaid i ryfeddod antur a theithio".
"Roedd yn fodlon mynd i ble bynnag y gallai’r llwybr arwain a chyffyrddodd â phawb y cyfarfu â nhw ar y ffordd," meddai ei fam.
"Roedd Sam yn dod â chynhesrwydd, chwerthin ac anhrefn llwyr ble bynnag yr aeth. Mae'n gadael twll mawr yn ein calonnau."
Dywedodd llefarydd ar ran tîm cynhyrchu Race Across The World: "Roedd pawb a weithiodd gydag ef a phawb a wyliodd Sam yn gallu gweld pa mor werthfawr a thrawsnewidiol oedd y daith iddo ef a’i fam, Jo.
"Fe wnaeth Sam groesawu'r daith saith wythnos gydag egni, cariad a phenderfyniad a welodd y pâr yn mwynhau anturiaethau ar draws Mecsico i’r Ariannin gan wneud i gynulleidfaoedd syrthio mewn cariad â nhw a’u perthynas arbennig.
"Hoffem estyn ein cydymdeimlad dwysaf i’w rieni, Andrew a Jo; ei frodyr, William a Charlie; ei lysfam Justine; ei deulu a’i ffrindiau."