
Amgueddfa Lloyd George yn ailagor ar ôl gwaith ail-ddatblygu
Mae Amgueddfa Lloyd George yng Ngwynedd wedi ailagor ar ôl buddsodiad sylweddol.
Cafodd yr amgueddfa, sydd wedi ei lleoli yng nghartref genedigol y cyn-Brif Weinidog yn Llanystumdwy, ei hail-ddatblygu yn ddiweddar.
Gwleidydd Rhyddfrydol oedd Lloyd George ac roedd yn Brif Weinidog y DU rhwng 1916 a 1922.
Rhoddwyd £250,000 o gyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a £30,000 gan Gyngor Gwynedd a Chronfa'r Iarlles Lloyd George ar gyfer y gwaith datblygu.
Fel rhan o'r datblygiad fe wnaeth y dylunwyr Mather & Co foderneiddio adeilad yr arddangosfeydd.
Y gobaith yw y bydd yr gwaith yn cynnig golwg fwy manwl ar fywyd y gwleidydd dadleuol.

'Gwaddol'
Dywedodd Megan Cynan Corcoran, Swyddog Datblygu Amgueddfeydd Cyngor Gwynedd bod y newidiadau yn un o'r camau cyntaf i geisio "adrodd bywyd" David Lloyd George.
"Gyda'r buddsoddiad hwn, rydym yn gallu cyflwyno'r ffeithiau hanesyddol ochr yn ochr ag arteffactau mewn modd feddylgar.
"Dyma'r cam cyntaf mewn ymgais barhaus i adrodd bywyd David Lloyd George a'i waddol."
Ychwanegodd y Cynghorydd Medwyn Hughes ei fod "wrth ei fodd" bod yr amgueddfa'n ail-agor.
"Mae Lloyd George yn parhau i fod yn ffigwr arwyddocaol a dadleuol yn hanes Cymru, Prydain a'r byd ac fe ddechreuodd bob dim fan hyn.
"Dwi wrth fy modd bod yr amgueddfa'n ailagor ac yn parhau i ddenu ymwelwyr o lefydd cyfagos ac o bell."
Themâu
Wedi'r ailddatblygiad mae gan yr amgueddfa bedair adran bellach sydd â themâu gwahanol - Y Gwleidydd, Y Bobl, Y Dyn a'r Gwaddol.
Mae Cyngor Gwynedd yn dweud eu bod yn gobeithio y bydd cyflwyno gwybodaeth ar ddull themâu yn cynnig cyfle gwell i ddeall bywyd Lloyd George.
Ychwanegodd y cyngor bod yr arddangosfa yn bwriadu archwilio agweddau positif a negatif y cyn prif weinidog, ei benderfyniadau a'i waddol.
Mae'r rhain yn cynnwys ei gopi drafft o Gytundeb Versailles a chopi cyntaf Cyllideb y Bobl yn 1909.
Bydd agoriad swyddogol yr amgueddfa ar ei newydd wedd ar 26 Mehefin.