Clwb rygbi o'r de'n swyno teithwyr maes awyr Gatwick
Clwb rygbi o'r de'n swyno teithwyr maes awyr Gatwick
Fe gafodd teithwyr o faes awyr Gatwick ger Llundain eu swyno gan un o alawon amlycaf Cymru ddydd Iau, wrth i Glwb Rygbi Nant-y-moel baratoi i hedfan ar daith i Ganada.
Wrth aros am eu hawyren, fe ymunodd aelodau o'r clwb gyda'i gilydd i ganu Calon Lân i bawb oedd yno.
Cafodd eu perfformiad werthfawrogiad cynnes ar y diwedd, gyda thorf o deithwyr cyfagos yn clapio eu cefnogaeth.
Mae perfformiadau o gorau o Gymru, neu weithiau ffrindiau neu gefnogwyr o Gymru'n canu cân yn ddirybudd ar fws neu drên, wedi dod yn boblogaidd ar gyfryngau cymdeithasol yn y blynyddoedd diwethaf.
Fe fydd gêm gyntaf Clwb Nant-y-moel ar eu taith i Ganada yn erbyn yr Oakville Crusaders nos Lun.