Newyddion S4C

Reform UK yn ennill eu sedd gyntaf ar Gyngor Sir Gâr

30/05/2025
Reform Llieidi

Michelle Beer yw cynrychiolydd newydd ward Lliedi ar Gyngor Sir Gâr yn dilyn isetholiad yno ddydd Iau.

Roedd yr isetholiad wedi ei gynnal yn dilyn marwolaeth y Cynghorydd Anthony Leyshon o'r Blaid Lafur, a fu farw ym mis Mawrth.

Ms Beer yw 10fed cynghorydd Reform UK yng Nghymru, a'r trydydd cynghorydd i ennill isetholiad ar ran y blaid yn y wlad.

Mae ward Lliedi yn Llanelli ac fe ddaeth Michelle Beer i'r brig gyda 568 o bleidleisiau, gyda Llafur yn ail gyda 312 o bleidleisiau.

Y canlyniad yn llawn:

Michelle May Beer - Reform UK - 568
Andrew Bargoli - Llafur Cymru - 312
Sharon Burdess - Annibynnol - 116
Jonathan Edward Burree - Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - 41
Wayne Erasmus - Gwlad, Gall Cymru Ford Yn Well – 9
Alison Leyshon - Annibynnol - 86
Taylor Reynolds - Plaid Cymru, The Party of Wales - 107
Richard Williams - Ymgeisydd Plaid Geidwadol Cymru – 93

Roedd 33.36% wedi pleidleisio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.