Lerpwl: Plentyn naw oed ymhlith y rhai a anafwyd
Mae Heddlu Glannau Mersi wedi cadarnhau taw plentyn naw oed oedd y ieuengaf i gael ei anafu ar ôl i gar yrru i mewn i’r dorf ar ddiwedd gorymdaith i ddathlu llwyddiant clwb pêl droed Lerpwl ddydd Llun.
Roedd y dioddefwr hynaf yn 78 oed ac mae pob un o'r 79 person gafodd eu hanafu yn Brydeinwyr, meddai’r llu.
Mewn cynhadledd i’r wasg ddydd Iau, fe wrthododd y llu ag ateb pa gyffur y mae’r dyn 53 oed sy’n parhau yn y ddalfa yn cael ei amau o’i gymryd.
Dywedodd y llu: “Fydden ni ddim yn mynd i’r manylion hyn ar y cam hwn o’r ymchwiliad.”
Mae'r heddlu wedi cael rhagor o amser i holi gyrrwr y car.
Mae gan swyddogion tan nos Iau i holi’r dyn 53 oed a gafodd ei arestio o geisio llofruddio, gyrru’n beryglus a gyrru dan ddylanwad cyffuriau, ac mae’n parhau yn y ddalfa.
Fe wnaeth miloedd o bobl ymgynnull ar strydoedd Lerpwl i ddathlu coroni tîm pêl-droed Lerpwl yn bencampwyr Uwch Gynghrair Lloegr.