Newyddion S4C

Gwahodd cwmnïau creadigol i wneud adnoddau addysgu arloesol

Cymraeg

Mae Adnodd, sefydliad sy’n cefnogi adnoddau addysgol dwyieithog, wedi cyhoeddi strategaeth newydd a fydd yn “chwyldroi sut mae adnoddau’n cael eu creu, eu rhannu a’u defnyddio.”

Mae strategaeth newydd Adnodd yn cael ei gyhoeddi ddydd Mercher ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Mharc Margam.

Bydd yn cynnwys gweledigaeth ar gyfer cydweithio agos rhwng y sector addysg a diwydiannau creadigol a thechnoleg yng Nghymru.

Bydd yn cael ei roi ar waith fis Mehefin, pan fydd ei Gronfa Arloesi a Chydweithio yn cael ei lansio.

Yn ôl Adnodd, mae’n galw ar gwmnïau creadigol ac addysgwyr i wneud cais am gyllid i droi eu syniadau’n adnoddau addysg arloesol.

Maen nhw’n bwriadu “sicrhau bod pob adnodd yn adlewyrchu ac yn hyrwyddo Cymru gynhwysol a dwyieithog ac yn rhoi llais cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol wrth galon yr hyn maen nhw’n ei wneud.”

Bydd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, ar faes Eisteddfod yr Urdd ddydd Mercher yn profi realiti rhithiwr (virtual reality) Aberwla, sef adnodd dysgu Cymraeg sy’n rhoi cyfle i’r defnyddwyr deithio o amgylch pentref rhithiol Aberwla.

Dywedodd Emyr George, Prif Weithredwr Adnodd: “Gyda’r pwysau cynyddol sy’n wynebu ysgolion yng Nghymru a thu hwnt, mae ein hymchwil yn dangos bod ymarferwyr yn gorfod addasu adnoddau bob wythnos i ddiwallu anghenion eu dysgwyr.”

“Mae’n tynnu sylw at yr heriau dyddiol y mae athrawon yn eu hwynebu ac yn dangos pam mae angen dybryd am ein dull arloesol o ddatblygu adnoddau.” meddai.

Dywedodd Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg fod y strategaeth newydd yn “arwain y ffordd o ran datblygu adnoddau addysgol”.

“Mae’n gam hanfodol ymlaen o ran sicrhau bod pob dysgwr yng Nghymru yn gallu cael gafael ar adnoddau sy’n adlewyrchu eu bywydau, eu hiaith a’u diwylliant.”

“Drwy feysydd ffocws clir, bydd Adnodd yn sbarduno cysylltiadau rhwng y sectorau addysg, diwylliant a chreadigol, gan fanteisio i’r eithaf ar arferion da o bob cwr o Gymru a thu hwnt,” meddai.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.