
Enillydd Tir Na N'Og: 'Pawb hawl i fod yn falch o bwy ydyn nhw'
Enillydd Tir Na N'Og: 'Pawb hawl i fod yn falch o bwy ydyn nhw'
Mae un o enillwyr gwobrau Tir Na N’Og eleni wedi dweud bod ennill yn “gadarnhad bod gan bawb yr hawl i fod yn falch o bwy ydyn nhw”.
'Cymry Balch Ifanc' gipiodd y wobr yn y categori uwchradd yn ystod seremoni ar faes Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr ddydd Mawrth.
Straeon personol gan 13 o bobl o’r gymuned LHDTCRA+ yw’r llyfr. Yn ôl Llŷr Titus, un o olygyddion y llyfr, mae’n “fraint’ cipio’r wobr.
Megan Angharad Hunter (canol, uchod) oedd y golygydd arall, a gasglodd y wobr ynghyd â rhai o'r cyfranwyr eraill ddydd Mawrth.
“Mewn cyfnod lle ydan ni’n gweld ymosodiadau o bob cwr ar hawliau pobl LHDTCRA+ mae ennill gwobr Tir na n-Og a chael dathlu hynny ar faes gŵyl fel yr Urdd, sydd yn ddigamsyniol yn ei chefnogaeth i’n cymuned ni, yn gadarnhad bod gan bawb yr hawl i fod yn falch o bwy ydyn nhw,” meddai.
“Fel un o olygyddion y gyfrol mae hi'n fraint aruthrol ennill ond hefyd fel golygydd dyma bwysleisio mai straeon y bobl ifanc o fewn cloriau’r gyfrol ydy’r peth pwysicaf ac mai nhw ddylai gael y sylw heddiw.”
Mae Llŷr Titus yn dweud mai'r gobaith yw bod y llyfr yn gwneud i bobl fod efo mwy o gydymdeimlad tuag at y gymuned LHDTCRA+.
"Mi allai nifer ohonom ni wneud efo mwy o empathi, a phan wnaiff yr rheiny ohonoch chi sydd ddim yn deall pobl ifanc LHDTCRA+ neu yn teimlo unrhyw fath o ddrwgdeimlad tuag atyn nhw droi at y straeon o fewn y gyfrol yma, dwi’n mawr obeithio y gwnewch chi fagu yr empathi hwnnw, a dealltwriaeth.”

'Hyder'
Angie Roberts a Dyfan Roberts sydd wedi dod i’r brig yn y categori cynradd gyda’r nofel fer Arwana Swtan a’r Sgodyn Od.
Dywedodd Angie Roberts bod ennill yn rhoi’r “hyder" iddi barhau i ysgrifennu.
Nofel ddoniol yw hon wedi ei lleoli yng Nghaernarfon. Mae Arwana Swtan yn cyrraedd yno ynghanol storm i aros gyda’i thaid. Pan ddaw môr-forwyn i’r dref mae yna dro ar fyd i’r bobl leol a’r dref.
“’Dan ni ar ben ein digon! Mae’r newyddion gwych yma’n mynd i roi’r hyder i mi ddal ati i sgwennu’r holl straeon sydd yn fy mhen. Mwy o anturiaethau i Arwana Swtan, ei mêts Halan a Finag o’r siop jips, a’r fôr-forwyn fwya sassy yn y byd, Swigi Dwgong,” meddai Angie Roberts.
Cafodd gwobrau blynyddol Tir na n-Og ei sefydlu yn 1976 gyda'r bwriad o ddathlu’r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru.
Enillydd Gwobr Dewis y Darllenwyr yn y categori cynradd oedd Llanddafad gan Gareth Evans-Jones.
Enillydd Gwobr Dewis y Darllenwyr Cymraeg yn y categori uwchradd oedd Cynefin, Cymru a’r Byd gan Dafydd Watcyn Williams.