Newyddion S4C

Datrys dirgelion dolffiniaid Bae Ceredigion drwy gasglu eu baw

Dr David Wilcockson o Brifysgol Aberystwyth a Dr Sarah Perry o Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.

Mae ymchwilwyr yn ceisio datrys dirgelion am ddolffiniaid Bae Ceredigion drwy gasglu eu baw o’r môr.

Mae ymchwilwyr o Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn casglu’r baw cyn ei yrru at wyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Y nod yw dysgu mwy am ddiet ac ymddygiad y dolffiniaid trwynbwl.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio’r technegau DNA amgylcheddol diweddaraf (eDNA) i gael data manwl ar ddiet yr anifeiliaid.

Dywedodd Dr David Wilcockson o Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth ei fod yn brosiect ymchwil “cyffrous”.

“Yr hyn sy’n wirioneddol gyffrous i ni, ar wahân i ddarganfod mwy am beth mae dolffiniaid yn ei fwyta a’u hymddygiad, yw’r ffaith ein bod yn cynnwys y cyhoedd yn y gwaith hwn,” meddai.

“Nhw yw’r ‘ditectifs dolffiniaid’ a’n gobaith yw y bydd hyn yn cynnig ffordd arall iddyn nhw gael cysylltiad agosach â’u hamgylchedd lleol ac annog gweithgareddau cadwraeth y tu hwnt i’r prosiect.”

Yn ogystal â dangos pa ysglyfaeth y mae'r dolffiniaid wedi bod yn bwydo arno ac ymhle, bydd y profion yn helpu i greu proffiliau unigol ar gyfer pob un.

Bydd y proffiliau hyn yn galluogi tîm y prosiect i nodi rhyw’r dolffiniaid, y perthnasoedd rhwng aelodau’r teulu, maint y boblogaeth, eu potensial bridio a’u patrymau symud.

Bydd y wybodaeth newydd yn llywio ymdrechion cadwraeth forol ym Mae Ceredigion yn y dyfodol ac yn helpu i warchod poblogaeth brin yr ardal o ddolffiniaid.

Dywedodd Dr Sarah Perry, Rheolwr Cadwraeth Forol ac Ymchwil yn Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru ei fod yn brosiect “arloesol”.

“Mae'r prosiect hwn yn ymdrin â maes ymchwil yr ydym wedi anelu at gychwyn arno dros y ddegawd ddiwethaf ac rydyn ni’n gyffrous ei fod wedi dwyn ffrwyth ar adeg pan mae’n bwysicach fyth i ni fod yn adeiladu ar ein gwybodaeth am y rhywogaethau yn y dyfroedd o'n cwmpas,” meddai.

Llun: Dr David Wilcockson o Brifysgol Aberystwyth a Dr Sarah Perry o Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.