Newyddion S4C

‘Mae wedi mynd yn hollol wallgof’: Trump yn beirniadu Putin ar ôl ymosodiadau ar Wcráin

Donald Trump a Vladimir Putin

Mae Donald Trump wedi dweud bod Vladimir Putin “wedi mynd yn hollol wallgof” ar ôl penwythnos o ymosodiadau gyda thaflegrau a dronau ar Wcráin.

Dywedodd Arlywydd America bod “rhywbeth wedi digwydd” i Arlywydd Rwsia a’i fod bellach yn ystyried rhagor o sancsiynau yn erbyn y wlad.

Fe wnaeth Rwsia danio dros 360 o ddronau a thaflegrau at ddinasoedd Wcráin ddydd Sadwrn a Sul.

Fe gafodd o leiaf 12 o bobl, gan gynnwys tri phlentyn, eu lladd yn yr ymosodiadau.

Dyma oedd ymosodiad awyr mwyaf Rwsia ar Wcráin ers i’w hymdrech i oresgyn y wlad ddechrau ym mis Chwefror 2022.

Dywedodd Llu Awyr Wcráin ei fod wedi gallu saethu 266 o dronau a 45 o daflegrau i lawr. Ond ychwanegodd fod yr ymosodiad wedi effeithio ar "y rhan fwyaf o ranbarthau Wcráin". 

Fe wnaeth Donald Trump gyhoeddi neges ar y cyfrwng cymdeithasol Truth Social gan ddweud ei fod “wedi cael perthynas dda iawn gyda Vladimir Putin o Rwsia erioed”.

“Ond mae rhywbeth wedi digwydd iddo,” meddai.

"Mae wedi mynd yn hollol wallgof! Mae'n lladd llawer o bobl yn ddiangen, a dydw i ddim yn sôn am filwyr yn unig.

"Rydw i wedi dweud erioed ei fod eisiau Wcráin gyfan, nid dim ond darn ohoni.

“Ac efallai bod hyn yn profi i fod yn iawn, ond os yw'n gwneud hynny, bydd yn arwain at gwymp Rwsia!"

Wrth drafod gyda gohebwyr yn ddiweddarach fe ddywedodd nad oedd yn “gwybod beth ddigwyddodd i Putin”. 

“Rydw i wedi'i adnabod ers amser maith,” meddai. “Rydw i wedi dod ymlaen gydag o erioed.

"Ond mae o'n anfon rocedi i ddinasoedd ac yn lladd pobl, a dydw i ddim yn hoffi hynny o gwbl."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.