Newyddion S4C

Merch o'r Felinheli sydd wedi ei chofrestru’n ddall wedi ei dewis i nofio dros Brydain

Heno Newydd 2025

Merch o'r Felinheli sydd wedi ei chofrestru’n ddall wedi ei dewis i nofio dros Brydain

Mae merch o’r Felinheli sydd wedi ei chofrestru’n hollol ddall wedi ei dewis i garfan Nofio Aquatics GB.

Mae gan Ela Letton Jones, 18 oed o’r Felinheli, gyflwr o’r enw Albino, sy’n effeithio ar ei gallu i weld.

Mae hi wedi ei chofrestru yn hollol ddall, ond mae ganddi 10% o’i golwg.

Yn ôl Ela, ni fyddai hi’n diffinio’i hun yn “ddall”, nac ychwaith fel bod ganddi nam ar ei golwg.

Dywedodd ei bod yn mwynhau nofio gan nad yw ei chyflwr yn effeithio arni pan fydd hi’n nofio yn y pwll.

“Dwi’m yn teimlo ddim gwahanol i bawb arall yn y pwll,” meddai.

Aberth

Dechreuodd Ela nofio pan roedd hi’n ifanc, ac roedd hi’n mwynhau treulio amser yn y pwll ar gyfer hwyl a’i ffitrwydd yn yr ysgol.

Ar ôl cyfnod clo Covid, dechreuodd gymryd rhan mewn mwy o gystadlaethau, a sylweddolodd pan aeth dramor gyda Nofio Cymru, fod ganddi “botensial”.

Mae ei diwrnod yn dechrau am bump yn y bore, pan mae hi’n cael ei brecwast cyn sesiwn nofio dwy awr o 5:45 tan 7:45.

Ychwanegodd ei bod yn treulio tuag ugain awr yr wythnos yn y pwll nofio yn ymarfer.

“Mae o’n cymryd lot o ymroddiad, a dwi’n aberthu lot, ond mae o werth o,” meddai.

‘Nyrfys’

Ei phrif ras yw’r nofio cefn am 100 metr.

Dywedodd fod y “build-up yn waeth na gwneud y ras ei hun – yn enwedig mewn cystadlaethau serious”.

“Dwi mor nyrfys cyn g’neud o a wedyn mae o gyd yn dod fyny i munud a ten seconds yn y dŵr,” meddai.

Cystadlodd Ela yn y Bencampwriaeth Brydeinig fis Ebrill y llynedd, gan chwblhau ag amser gwell nag yr oedd hi’n disgwyl.

Dim ond un eiliad oddi wrth gymhwyso ar gyfer y Gemau Paralympaidd ym Mharis oedd hi.

“Neshi ddychryn fy hun ond neshi ddychryn pobl eraill hefyd, dwi’m yn meddwl oedden nhw’n disgwyl i fi nofio mor sydyn a hynna,” meddai.

Dyna’r ras a arweiniodd iddi gael ei dewis i garfan nofio Aquatics GB.

Balch

Dywedodd ei chwaer fawr, Alys, fod y teulu yn “falch iawn o Ela”.

“Pan ‘da ni’n mynd i Sheffield neu i Llundain i wylio a mae hi’n rasio yn y pwll yn erbyn pobl rili cyflym….mae o jysd yn nyts!" meddai.

“Dwi’n deud ‘tha gyd o ffrindiau fi am Ela a mae nhw fatha ‘waw mae hynna’n nyts!'"

Y dyfodol

“’Swn i’n licio cael nofio fatha gyrfa am ‘chydig o flynyddoedd," meddai Ela.

Ond cyn hynny, dywedodd yr hoffai gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow dros Gymru gyntaf.

Ond y “prif beth” y mae Ela yn ei anelu ato fo, ydi mynd i’r Gemau Paralympaidd yn Los Angeles yn 2028.

“Os dwi’n cario mlaen gweithio’n galed a dal i joio fo, sa’m byd yn stopio fi rili,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.