Newyddion S4C

'Bwrlwm' ym Mhort Talbot wrth i filoedd gyrraedd maes Eisteddfod yr Urdd

Eisteddfod Urdd Margam

Mae 'na "fwrlwm" ym Mhort Talbot wrth i filoedd gyrraedd maes Eisteddfod yr Urdd eleni, meddai cyfarwyddwyr yr ŵyl Llio Maddocks.

Mae'r brifwyl yn cael ei chynnal ym Mharc Margam ym Mhort Talbot am y tro cyntaf ers 2003.

Dros y dyddiau nesaf, bydd plant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru yn cystadlu yn yr ŵyl.

Yn ôl Llio Maddocks, cyfarwyddwr y celfyddydau'r Urdd, mae'r croeso wedi bod yn "arbennig".

"Mae’r gymuned leol a’r gwirfoddolwyr yn yr ardal wedi bod yn arbennig iawn," meddai wrth Newyddion S4C.

"Maen nhw wedi bod yn gweithio efo ni ers tair blynedd i godi arian, codi bwrlwm a gwneud yn siŵr bod pawb yn gwbo bod y 'Steddfod ar y ffordd.

"Ac mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth, mae 'na lot o ysgolion yn cystadlu am y tro cyntaf, lot o grwpiau cymunedol yn ail ffurfio.

"Mae 'na aelwyd newydd hefyd wedi cael ei ffurfio yn yr ardal ar gyfer cystadlaethau diwedd yr wythnos mae’r croeso wedi bod yn arbennig."

Mae’r mudiad wedi cyhoeddi cyfanswm o 119,593 o gofrestriadau i gystadlu yn yr Eisteddfod eleni, sy’n fwy nag erioed o’r blaen.

Mae cynnydd sylweddol (o 42%) hefyd wedi bod yn nifer y dysgwyr Cymraeg ifanc yn cymryd rhan yn yr ŵyl o gymharu â llynedd, medden nhw.

Sut mae cyrraedd y maes?

Gyda'r ŵyl yn cael ei chynnal mewn ardal drefol eleni, mae Llio yn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

"'Da ni mewn ardal gyfleus iawn o ran trafnidiaeth gyhoeddus eleni sy’n wbath arbennig iawn i ni wrth i ni drio bod yn fwy gwyrdd," meddai. 

"Mae Trafnidiaeth Cymru wedi rhoi trên arbennig 'Mistar Urdd' ymlaen, felly triwch ddal y trên yna os 'da chi'n teithio o Gaerdydd i Bort Talbot. 

"Mae 'na drenau cyson yn cyrraedd yr orsaf ym Mhort Talbot ac mi fydd 'na fys wedyn yn casglu pobl bob hanner awr o’r orsaf i ddod i’r maes."

Gorsaf drenau Port Talbot (Parkway) yw’r orsaf agosaf i’r maes. 

Bydd gwasanaeth bws wennol yn rhedeg am ddim o’r orsaf drenau yma i'r maes.

Bydd yn gweithredu rhwng 06.30 - 21:56 ar ddydd Llun i Iau, ac 06.30 - 23.26 ar ddydd Gwener a Sadwrn.

Image
Tren Mr Urdd
'Mistar Urdd' ydy'r enw newydd ar un o drenau Trafnidiaeth Cymru.

Dywedodd Llio y dylai'r rhai sy'n bwriadu gyrru i'r ŵyl gynllunio eu taith o flaen llaw.

"Mae 'na arwyddion i fyny ar y ffordd o’r M4 ac mae 'na ddwy fynedfa hefyd yn dibynnu os 'da chi’n dod o’r gorllewin neu’r dwyrain," meddai.

"'Da ni yn disgwyl traffig a 'da ni'n gwbo bod yr ardal ym Mhort Talbot yn ardal prysur hefyd, felly cynlluniwch o flaen llaw. 

"Y mwyaf o bobl sy’n defnyddio’r arwyddion, y gorau fydd y trefniadau ar y dydd."

Mae'r holl barcio am ddim ac o fewn pellter cerdded i'r maes.

Mae ardal parcio benodol ar gyfer pobl ag anableddau sydd â bathodynnau glas.

Mae modd prynu tocynnau ar gyfer yr ŵyl ar wefan yr Urdd, neu ar y drws ar y diwrnod. 

Gall teuluoedd incwm isel hawlio tocynnau am ddim.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.