Newyddion S4C

Gobeithio am adeilad newydd i Ysgol Uwchradd Caergybi yn 2030

Ysgol Uwchradd Caergybi

Mae arweinydd cyngor Ynys Môn yn gobeithio y bydd ysgol uwchradd newydd yng Nghaergybi yn 2030.

Fe wnaeth pwyllgor gwaith y cyngor gymeradwyo y cynllun i adeiladu'r ysgol uwchradd newydd mewn cyfarfod ddydd Iau.

Fe fyddai gan yr ysgol a fyddai yn costio £66 miliwn le i 900 o ddisgyblion, ac yn ddibynnol ar gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Gary Pritchard, ei fod hefyd yn gobeithio y bydd yr ysgol newydd yn un ddwyieithog yn hytrach na’n un Saesneg gyda defnydd helaeth o’r Gymraeg.

Mae’r adeilad presennol wedi ei effeithio gan broblemau concrid RAAC, ac fe fu rhannau o’r ysgol ar gau am gyfnod yn 2023.

Dywedodd Gary Pritchard bod yr adeilad presennol yn “gwbl ddiogel” ond yn “hen” a bod angen adeilad “sy’n bwrpasol ar gyfer addysg yn yr 21ain ganrif”.

“Mae ‘di cael ei adeiladu yn y 50au,” meddai wrth siarad am yr ysgol bresennol ar Radio Cymru.

“Da ni wedi adeiladu sawl ysgol gynradd newydd yn y sir yn y blynyddoedd diweddar.

“Mae’r amserlen yn un sy’n cael ei reoli gan brosesau statudol. Y gobaith ydi y bydden ni’n gallu agor yr ysgol yn 2030.

“Mae’n amser eitha’ hir pan mae rhywun yn eistedd fan hyn yn 2025 yn sôn am ysgol newydd ond mae’n broses sy’n cael ei redeg gan amserlen statudol.

“Y gobaith ydy cael benthyciad gan Lywodraeth Cymru os ydi’r papur yn mynd gerbron y pwyllgor gwaith heddiw ac yn cael ei dderbyn.

“Cychwyn y daith ydi hon ac yn anffodus fe fydd ‘na genhedlaeth o ddysgwyr wedi bod drwy’r adeilad presennol cyn bod yr adeilad newydd yn cael ei hagor.”

Ychwanegodd mai’r gobaith ydi y byddai'r ysgol newydd yn un ddwyieithog erbyn iddi agor yn 2030.

“Mae’r ysgol mewn categori trosiannol,” meddai. 

“Fe wnaethon ni fel Plaid Cymru newid polisi iaith ysgolion Ynys Cybi rhai blynyddoedd yn ôl ac mae ffrwyth y newid hwnnw yn cael ei weld erbyn hyn.

“Gyda chymaint yn fwy o ddisgyblion yn dod allan o’n hysgolion cynradd ni sydd eisiau addysg uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd.

“Felly'r gobaith ydi erbyn 2030 pan mae’r adeilad newydd yn cael ei adeiladu y bydd yr ysgol yn yr un un categori a gweddill ysgolion y sir yn ddwyieithog.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.