Cyhoeddi cynlluniau i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn y gogledd
Bydd "mwy o wasanaethau trenau a bysiau" yn rhedeg yng ngogledd Cymru i sicrhau fod cymunedau'n cael eu "cysylltu yn well" yn ôl Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, y bydd 'Rhwydwaith Gogledd Cymru' yn gweld gwasanaethau trên ar ffurf metro ar brif linell y gogledd, llinell y Gororau (Caer i Wrecsam) a chysylltiad rheilffordd uniongyrchol newydd rhwng Wrecsam a Lerpwl.
Mae'r Llywodraeth hefyd yn bwriadu cyflwyno'r rhaglen i gynyddu gwasanaethau 50% ar draws prif lein Gogledd Cymru yn fis Mai nesaf yn hytrach na mis Rhagfyr 2026.
Fe fydd y cynlluniau yn cynnwys dechrau gwaith ar y linell rhwng Wrecsam a Lerpwl i sicrhau gwasanaethau metro uniongyrchol.
Bydd gwasanaeth newydd yn cael ei sefydlu o Landudno i Lerpwl, ac fe fydd gwasanaeth Maes Awyr Manceinion yn cael ei hymestyn i Gaergybi yn lle Llandudno.
Fe fydd gwasanaethau trên rhwng Wrecsam a Chaer hefyd yn dyblu erbyn fis Mai nesaf yn ôl y Llywodraeth.
Mae'r Llywodraeth hefyd yn addo gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu cynlluniau ar gyfer cyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaergybi, Bangor, Caernarfon a Wrecsam.
Ychwanegodd y Llywodraeth fod y newidiadau ar waith, gyda nifer hefyd wedi eu cynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf, y tair blynedd nesaf a hyd at 2035.
'Nawr yw'r amser iawn'
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: "Mae gennym nawr y bartneriaeth orau bosibl ar waith i ddarparu Rhwydwaith Gogledd Cymru.
"Rydym eisoes wedi cyflawni llawer dros Dde Cymru gyda Metro De Cymru. Gan adeiladu ar y buddsoddiad o £800m mewn trenau newydd, y mwyafrif ohonynt eisoes yn gwasanaethu rhanbarth y Gogledd, nawr yw'r amser iawn i’r Gogledd gael yr un lefel o uchelgais."
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens: “Mae Rhwydwaith y Gogledd yn gynllun cyffrous i roi profiad gwell i deithwyr ar draws y rhanbarth. Twf economaidd yw blaenoriaeth rhif un Llywodraeth y DU ac mae gwella trafnidiaeth yn hanfodol i wireddu’r uchelgais hwnnw."