Tri o Wynedd yn ennill lle ar dîm pŵl Anableddau Dysgu Cymru
Mae tri o Wynedd wedi ennill eu lle ar dîm pŵl Anabledd Dysgu Cymru.
Gary o Fethesda, Osian o Waunfawr a Troy o Flaenau Ffestiniog yw'r chwaraewyr cyntaf o'r gogledd i wneud hynny ers i'r tîm gael ei sefydlu yn 1994.
Ers dros flwyddyn a hanner, mae'r tri yn chwarae i Glwb Pŵl Llwybrau Llesiant ac yn ymarfer bob yn ail nos Lun yn bar Poced Gornel ym Mangor.
Yn dilyn llwyddiant mewn cystadlaethau rowndiau pŵl yn y ddinas, fe wnaethon nhw ennill eu lle ar y tîm cenedlaethol.
Maen nhw eisoes wedi cynrychioli eu gwlad yng nghystadleuaeth Cwpan y Cenhedloedd yn Bridlington yn Sir Efrog.
Yno, roedd chwech o dimau o Gymru, Lloegr, Yr Alban, Iwerddon, Gogledd Iwerddon a Gibraltar yn brwydro.
'Codi'r galon'
Dywedodd Gary ei fod yn teimlo'n "fwy hyderus" yn dilyn y profiad.
"Dwi wedi licio cael mynd i Bridlington, nes i fwynhau cyfarfod gweddill tîm Cymru a gwledydd eraill," meddai.
"Mi wnaethom ni guro lot o gêms. Dwi’n teimlo’n rili hapus, teimlo fwy hyderus ac yn edrych ymlaen at gystadlu eto."
Ychwanegodd Osian ei fod yn "edrych ymlaen" i gael cystadlu eto.
"Oedd o’n rhywbeth mawr i gael y cyfle i chwarae i Gymru, dwi’n teimlo’n falch," meddai.
"Dwi wedi rili mwynhau ac yn edrych ymlaen at fynd eto."
Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Oedolion, Iechyd a Llesiant, bod llwyddiant y tîm yn "codi'r galon".
"Mae’r cynllun Llwybrau Llesiant yn cynnig nifer o weithgareddau a sesiynau amrywiol i unigolion sydd ag anableddau dysgu yma yng Ngwynedd," meddai.
"Mae’r sesiynau sy’n cael eu cynnig yn amrywiol, ac yn hybu llesiant positif yn gorfforol, yn emosiynol ac yn gymdeithasol.
"Mae’n rhoi cyfleoedd gwahanol i fagu sgiliau a chael mwy o hyder wrth gymdeithasu.
"Rwy’n falch iawn o’r gwaith gwych sy’n digwydd, ac mae llwyddiant y clwb pŵl yn stori sy’n codi’r galon."