Heddlu'r Gogledd: Darganfod dyn yn ddiogel wedi ymdrechion i ddod o hyd iddo
Heddlu Gogledd Cymru
Cyhoeddodd Heddlu Gogledd Cymru fod dyn a ddiflannodd yn Sir Ddinbych, wedi ei ddarganfod yn ddiogel fore Sadwrn.
Roedd Edward Jones, 39 oed, wedi bod ar goll ers dydd Mercher, 7 Mai.
Roedd canolbwynt y chwilio yn ardaloedd Moel Famau a Bryniau Clwyd.
Mae'r heddlu wedi diolch i'r holl asiantaethau a fu'n chwilio amdano ac i'r cyhoedd.