Sir Ddinbych: Heddlu'n chwilio am ddyn sydd ar goll
Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth wrth iddyn nhw barhau i chwilio am ddyn aeth ar goll yn ardal Sir Ddinbych wythnos yn ôl.
Mae Edward Jones, 39 oed, wedi bod ar goll ers dydd Mercher, 7 Mai.
Dywedodd Heddlu’r Gogledd eu bod yn bellach yn canolbwyntio ar ardaloedd Moel Famau a Bryniau Clwyd wrth iddyn nhw geisio dod o hyd iddo.
Maen nhw’n apelio ar unrhyw un oedd yn yr ardaloedd hynny i gysylltu os ydyn nhw yn cofio gweld dyn gyda beic neu babell allai fod yn Edward.
Mae’r llu yn gofyn i bobl i gysylltu drwy ddyfynnu’r cyfeirnod C067822.