Reform yn blaid 'personoliaeth un dyn' medd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig
Mae disgwyl i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ddweud ddydd Sadwrn fod Reform yn blaid "personoliaeth un dyn".
Fe fydd Darren Millar yn mynnu fod yna "ddŵr glas clir" rhwng y Ceidwadwyr a Reform UK pan y bydd yn gwneud ei araith yng nghynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yn Llangollen.
Bydd yn defnyddio ei araith i gyfeirio at Reform fel plaid "personoliaeth un dyn" wrth gyfeirio at arweinydd y blaid Nigel Farage.
Ei araith fydd un o'r cyfleoedd olaf i annerch y Ceidwadwyr Cymreig cyn etholiad Senedd Cymru y flwyddyn nesaf.
Fe wnaeth arolwg diweddar gan YouGov awgrymu fod y Ceidwadwyr Cymreig yn bedwerydd gyda 13% o'r bleidlais yn yr etholiad nesaf, y tu ôl i Blaid Cymru, Reform UK a Llafur.
Mae disgwyl i Darren Millar ddweud: "I unrhyw un sy'n cael ei demtio gan Reform, cofiwch hyn: "Mae yna ddŵr clir glas rhwng y Ceidwadwyr Cymreig a Reform.
"Maen nhw'n gwlt personoliaeth un dyn - rydym ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn dîm unedig.
"Maen nhw'n gwmni sydd wedi eu cyfyngu, rydym ni'n blaid wleidyddol broffesiynol. A thra maen nhw'n cynnig sloganau, rydym ni'n cynnig datrysiadau o ddifrif."
Fe fydd hefyd yn dweud nad yr ateb i ddelio â rhwystredigaethau Llafur ydy pleidleisio dros Reform.