Arestio dyn ar amheuaeth o achosi tân a anafodd dau bensiynwr yn ddifrifol
Mae ditectifs sy'n ymchwilio i dân yng nghanolbarth Lloegr a adawodd ddau bensiynwr ag anafiadau difrifol wedi arestio dyn yng Nghymru.
Dywedodd Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr fod y gwasanaethau brys wedi eu galw i'r tân mewn tŷ ar Ffordd Caergybi, Wednesbury, yn ystod oriau mân fore Sul.
Dywedodd yr heddlu mewn datganiad: “Yn dilyn ymholiadau, mae dyn 53 oed wedi’i arestio yng Nghymru ar amheuaeth o losgi bwriadol.
“Mae dyn a dynes yn eu 80au yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ac mae ail ddyn yn ei 50au hefyd yn parhau yn yr ysbyty.”
Mae Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr wedi apelio am wybodaeth.