Newyddion S4C

Lleihau dedfryd dau frawd wnaeth lofruddio eu rhieni

Erik a Lyle Menendez

Mae barnwr yn Los Angeles wedi lleihau dedfryd dau frawd oedd yn y carchar am oes am lofruddio eu rhieni.

Fe wnaeth y barnwr Michael Jesic rhoi dedfryd arall i Erik a Lyle Menendez o 50 mlynedd. Bydd bwrdd parôl rŵan yn cwrdd mis nesaf er mwyn penderfynu a oes yna bosibilrwydd y gallen nhw gael eu rhyddhau.

Mae’r brodyr Menendez yn dweud eu bod wedi lladd Kitty a Jose Menendez er mwyn amddiffyn eu hunain ar ôl blynyddoedd o gam-drin rhywiol.

Wedi’r penderfyniad fe wnaeth y ddau ddatganiad yn sôn am yr hyn ddigwyddodd yn 1989 yn Beverly Hills.

Roedd y ddau frawd yn 18 a 21 oed ar y pryd.

Fe wnaeth y ddau ymddiheuro am yr hyn a wnaethon nhw a sôn am eu gobeithion o gael gweithio gyda dioddefwyr camdriniaeth rywiol yn y dyfodol.

Yn ystod y gwrandawiad fe wnaeth sawl aelod o’r teulu rhoi tystiolaeth yn cefnogi’r brodyr. Fe wnaeth cyn farnwr a charcharor arall hefyd ddatgan eu cefnogaeth i leihau dedfryd y Menendez.

Dywedodd cyfreithiwr y ddau fod “heddiw yn ddiwrnod gwych” a’i bod “gam enfawr yn agosach at ddod a’r bechgyn adref”.

Mae’r achos wedi bod yn un dadleuol gydag Americanwyr yn rhanedig.

Mae swyddfa twrnai rhanbarthol wastad wedi gwrthwynebu rhyddhau'r brodyr.

Yn ôl yr erlyniad fe wnaethon nhw ddweud celwydd wrth yr heddlu ar ôl troseddu a dweud celwydd wrth aelodau o’r teulu.  

Maent hefyd yn dweud nad ydynt erioed wedi cymryd cyfrifoldeb llawn am yr hyn wnaethon nhw. 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.