Cadarnhau Delyth Evans yn Gadeirydd S4C wrth i bum aelod newydd ymuno
Cadarnhaodd Llywodraeth San Steffan mai Delyth Evans yw Cadeirydd newydd S4C, a bod pum aelod newydd wedi eu penodi i fwrdd y sianel.
Mae'r Dr Gwenllian Lansdown Davies yn Brif Weithredwr y Mudiad Meithrin.
Mae Catryn Ramasut yn Gyfarwyddwr y Celfyddydau, gyda Chyngor Celfyddydau Cymru.
Mae W Dyfrig Davies yn gyn gyfarwyddwr cwmni cyfryngol Telesgop a chyn gadeirydd Urdd Gobaith Cymru.
Mae Wyn Innes yn gyfrifydd siartredig.
Ac mae Betsan Powys yn newyddiadurwriag a chyn Olygydd BBC Radio Cymru.
Mae nhw wedi eu penodi gan Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon y DU, Lisa Nandy AS.
Cadarnhaodd hefyd y bydd Denise Lewis Poulton yn parhau am ail dymor ar Fwrdd S4C.
Dechreuodd Delyth Evans yn y rôl fel Cadeirydd ar 1 Mai 2025 gan olynu Guto Bebb, a oedd yn y rôl dros dro.
Daw’r cadarnhad am ei phenodiad wedi i Ms Evans ymddangos o flaen Pwyllgor Materion Cymreig Senedd San Steffan ar gyfer gwrandawiad cyn penodi ar 23 Ebrill.
Wrth ymateb i'r penodiadau diweddaraf, dywedodd Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C: “Rydym yn falch iawn fod Delyth Evans wedi ymuno â S4C fel ein Cadeirydd newydd. Daw Delyth â chyfoeth o brofiad arweinyddol a llywodraethiant yn ogystal ag angerdd at weld y Gymraeg yn ffynnu ym mhob cwr o’r wlad.
"Hoffwn hefyd groesawu aelodau newydd y Bwrdd. Bydd eu cyfraniad a’u profiadau amrywiol yn sicr yn werthfawr iawn i ni wrth i ni wynebu heriau a chyfleon yr oes ddarlledu newydd.
“Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i Guto Bebb am ei ymroddiad arbennig dros y flwyddyn ddiwethaf fel ein Cadeirydd dros dro – mae wedi dod â sefydlogrwydd a chadernid doeth i’r rôl.
"Wrth groesawu aelodau newydd, gan gynnwys ail dymor i Denise Lewis Poulton, hoffwn hefyd ddiolch i Chris Jones ac Adele Gritten ar ddiwedd eu tymor fel aelodau Bwrdd am eu cyfraniad i S4C.”