Newyddion S4C

A fydd Pab newydd yn cael ei ethol ar ail ddiwrnod y Conclaf?

Y Conclaf

Fe fydd 133 o gardinaliaid yn ail-ymgynnull yng Nghapel Sistina yn Y Fatican ddydd Iau ar ôl methu a dod i benderfyniad yn y bleidlais gyntaf i ddewis Pab newydd ddoe.

Fe gododd mwg du dros sgwâr San Pedr nos Fercher gan ddynodi nad oedd penderfyniad wedi ei wneud. 

Fore dydd Iau fe gododd mwg du am yr eildro hefyd yn arwydd o'r sefyllfa.

Fe gafodd Pab newydd ei ethol ar ail ddiwrnod y ddau Gonclaf diweddaraf yn 2013, 2005, ac yng nghonclaf cyntaf 1978.

Yn 1963 ac ail Gonclaf 1978 fe gymerodd ychydig yn hirach, sef tri diwrnod, i ddod i benderfyniad.

Does yr un Conclaf wedi parhau mwy na tri diwrnod ers ethol y Pab John XXIII 1958.

Mae rhai wedi dyfalu y bydd y Conclaf eleni yn hirach na’r arfer am nad oes yna ffefryn amlwg.

Amserlen

Fe fydd hyd at bedair pleidlais yn cael eu cynnal ddydd Iau o’i gymharu ag un yn unig ddydd Mercher gan olygu ei fod yn fwy tebygol y bydd penderfyniad yn cael ei wneud.

Fe fydd y bleidlais gyntaf am 10.30 amser Rhufain (9.30 GMT) fore Iau a’r olaf am 19.00 amser Rhufain (18.00 GMT).

Bydd angen i ddau draean o’r cardinaliaid benderfynu ar ymgeisydd yn y bleidlais gudd, gyda mwg gwyn yn codi o simnai'r capel i ddynodi eu bod nhw wedi gwneud hynny.

Mae'r Conclaf ( o'r Lladin 'gydag allwedd') yn cyfeirio at gyfarfod y cardinaliaid sydd yn ymgynnull yng Nghapel Sistina i bleidleisio i ethol y Pab nesaf, a hynny heb gyfathrebu gyda'r byd y tu allan nes fod penderfyniad wedi ei wneud.

Bu farw y Pab Ffransis yn 88 oed yn ei gartref, Casa Santa Marta, ar fore Llun y Pasg. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.