Lleucu Roberts yn cipio Gwobr Goffa Daniel Owen
Lleucu Roberts yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen Eisteddfod AmGen eleni.
Bydd ei henw yn adnabyddus iawn i gefnogwyr yr Eisteddfod, gan ei bod wedi llwyddo i ennill y ‘dwbl’ nôl yn 2014, drwy gipio Gwobr Goffa Daniel Owen a’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr.
Mae hi’n derbyn Medal Goffa Daniel Owen, sy’n rhoddedig gan Gareth, Cerys a Betsan Lloyd, Talgarreg, a £5,000, yn rhoddedig gan Brifysgol Aberystwyth.
Y beirniaid oedd Aled Islwyn, Gwen Pritchard Jones a Dafydd Morgan Lewis, a derbyniwyd pum nofel mewn cystadleuaeth a oedd, yn ôl y beirniaid, yn un agos iawn.
Ond, Ceridwen a’i nofel, Hannah-Jane, ddaeth i’r brig yn y pendraw, gyda Dafydd Morgan Lewis yn cychwyn ei feirniadaeth yn y Cyfansoddiadau a’r Beirniadaethau drwy ddweud: “Hon oedd y nofel gyntaf i ddod o’r bocs ac fe wyddwn yn syth y byddai yna deilyngdod eleni.”
Ychwanegodd Gwen Pritchard Jones: “Mae’r iaith yn bleser i’w darllen ac yn llifo’n esmwyth, a gall Ceridwen greu disgrifiadau hyfryd.”
Traddodwyd y feirniadaeth gan Aled Islwyn, ac meddai: “Ar y cychwyn, ymddengys taw stori bur gonfensiynol, gymunedol a chysurus yw hi am fod – un am hen wreigan gysetlyd gyda chyfrinachau’n llechu yn ei gorffennol a hithau’n brysur golli’i chof....yn ogystal â’r dydd.
“Ond yn raddol, amlygir dyfnder aeddfetach a hwnnw’n un digon dirdynnol ar brydiau. Diolch i’r elfen Siapaneaidd yn arbennig, cynigir perspectif gwreiddiol ar aml i sefyllfa gyfarwydd. Wrth i’r nofel fynd yn ei blaen, cefais fy hun yn troi’r tudalennau gyda mwyfwy o frwdfrydedd.
“Diolch i’r pum awdur am ddeunydd darllen gwerth cnoi cil trosto. Prin fod trwch blewyn rhwng gweithiau Ceridwen a Mursen: dau awdur o’r iawn ryw a dwy nofel ryfeddol o debyg i’w gilydd o ran themâu a safon. Bu’n ddewis anodd, ond wedi dwys ystyried, rydym yn gytûn taw Hannah-Jane gan Ceridwen sy’n cipio’r wobr eleni.”
Cardi o Lanfihangel Genau’r Glyn yw Lleucu Roberts, sy’n byw yn Rhostryfan ers bron i dri degawd bellach.
Aeth i Ysgol Rhydypennau, Bow Street ac Ysgol Penweddig, Aberystwyth a chael ei hysbrydoli i ysgrifennu gan ei hathrawon Cymraeg, Alun Jones a Mair Evans.
Graddiodd yn y Gymraeg yn Aberystwyth a mynd yn ei blaen i ennill doethuriaeth am waith ar feirdd yr uchelwyr dan arweiniad ei thiwtor, y diweddar Bobi Jones.
Bu am gyfnod yn olygydd yng ngwasg y Lolfa, ond bellach, mae’n gwneud ei bywoliaeth i raddau helaeth drwy gyfieithu.
Dros y blynyddoedd bu’n ysgrifennu ar gyfer y radio a’r teledu, ac mae wedi gwneud gwaith sgriptio ar nifer o gyfresi drama teledu a radio. Mae’n awdur saith nofel a dwy gyfrol o straeon byrion i oedolion, ac wyth nofel i blant a phobl ifanc.
Enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd Pwllheli 1982, gwobr Tir na n-Og ddwy waith am ei nofelau i bobl ifanc, Annwyl Smotyn Bach a Stwff, a Gwobr Goffa Daniel Owen (am ei nofel Rhwng Edafedd) a’r Fedal Ryddiaith (am ei chyfrol o straeon byrion, Saith Oes Efa) yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014.
Cipiodd wobr Barn y Bobl Golwg 360 am Saith Oes Efa fel rhan o wobrau Llyfr y Flwyddyn y 2015.
Mae ganddi hi a’i gŵr, Arwel ‘Pod’ Roberts, bedwar o blant, ac wyres.
Er na chafodd ei hysbrydoli i ysgrifennu llawer yn ystod y cyfnod clo, mae’n dweud iddo ddyfnhau fwyfwy ei gwerthfawrogiad o gwmni ei theulu.
Llun: Y Lolfa