Newyddion S4C

Arestio wyth o ddynion mewn ymgyrchoedd gwrthderfysgaeth

New Scotland Yard / Heddlu'r Met / Llundain

Mae wyth o ddynion wedi cael eu harestio fel rhan o ddau ymchwiliad ar wahân gan adran gwrthderfysgaeth Heddlu'r Met.

Fe gafodd pum dyn, gan gynnwys pedwar o Iran, eu harestio mewn lleoliadau ar draws Lloegr ddydd Sadwrn ar amheuaeth o baratoi gweithred derfysgol.

Daeth hynny ar ôl i gynllwyn "i dargedu un safle" gael ei ddatgelu, meddai’r Heddlu'r Met.

Fe wnaeth y llu hefyd gadarnhau fod tri dyn arall o Iran wedi eu harestio ddydd Sadwrn fel rhan o ymchwiliad ar wahân.

Mae'r Ysgrifennydd Cartref, Yvette Cooper, wedi diolch i'r heddlu am y camau maen nhw wedi'u cymryd i gadw pobl yn ddiogel.

Dywedodd: "Mae’r rhain yn ddigwyddiadau difrifol sy’n dangos bod galw parhaus i addasu ein hymateb i fygythiadau diogelwch cenedlaethol."

Fel rhan o'r ymchwiliad cyntaf, fe gafodd y pedwar dyn o Iran eu harestio ar amheuaeth o baratoi gweithred derfysgol.

Cafodd y pumed dyn, nad yw ei genedligrwydd wedi’i gyhoeddi eto, ei gadw o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol.

Ymhlith y rhai a gafodd eu harestio, mae dyn 29 oed yn ardal Swindon, gorllewin Lloegr, dyn 46 oed yng ngorllewin Llundain, dyn 29 oed yn ardal Stockport, dyn 40 oed yn ardal Rochdale a phumed dyn yn ardal Manceinion. Maen nhw'n parhau yn y ddalfa.

Fel rhan o'r ail ymchwiliad, dywedodd Heddlu'r Met fod tri dyn - 39, 44 a 55 oed - wedi’u harestio o dan y Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol.

Roedd hynny mewn tri chyfeiriad gwahanol yng ngorllewin a gogledd-orllewin Llundain.

Maen nhw hefyd yn parhau yn y ddalfa tra bod y chwilio'n parhau.

Dywedodd yr heddlu nad oedd y ddau ymchwiliad yn gysylltiedig.

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.