Marathon Llundain 2026 yn torri record byd
Mae trefnwyr Marathon Llundain yn dweud bod record byd wedi ei thorri, wrth i 1.1 miliwn o bobl ymgeisio am le yn 2026.
Yn ôl y trefnwyr, mae hynny wedi chwalu'r record byd ar gyfer 2025 pan ymgeisiodd 840,318 o bobl.
“Mae hyn yn gwbl ryfeddol, sy'n cadarnhau unwaith eto mai Llundain yw'r farathon fwyaf poblogaidd ar y blaned,” meddai Hugh Brasher, Prif Weithredwr Digwyddiadau Marathon Llundain.
“Mae'n ddiwrnod rhyfeddol ac ysbrydoledig, pan rydym yn dathlu dynoliaeth ar ei orau,” ychwanegodd.
Mae'r ceisiadau ar gyfer 2026 wedi cynyddu 36% o gymharu â'r llynedd, a bron ddwbl y cyfanswm yn 2024, yn ôl y trefnwyr.
Ac roedd y niferoedd bron yn gyfartal o safbwynt dynion a menywod.
Llwyddodd Marathon Llundain i dorri record byd Guinness eleni ar gyfer y niferoedd mwyaf i gwblhau'r cwrs, wrth i 56,640 groesi'r llinell derfyn.
Caeodd y balot ar gyfer Marathon Llundain 2026 am 16:00 brynhawn Gwener, 2 Mai.