Pwllheli: Rhyddhau dyn ar fechnïaeth amodol yn dilyn adroddiadau am 'ymddygiad amheus'
Mae dyn a gafodd ei arestio ar amheuaeth o droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus yn dilyn adroddiadau am "ymddygiad amheus" mewn tref yng Ngwynedd wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.
Dywedodd yr heddlu ddydd Gwener eu bod wedi derbyn adroddiadau am "ymddygiad amheus" ar hyd promenâd Pwllheli a chyffiniau siop Lidl yn y dref.
Fe gafodd dyn 37 oed ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiadau, meddai'r llu.
Mae bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth gydag amodau i beidio â mynd at unrhyw fenywod sy’n anhysbys iddo.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal Iwan Jones: "Rydym yn cymryd adroddiadau o’r math yma o ddifrif a byddwn yn ymchwilio i adroddiadau’n llawn.
"Byddwn yn eich annog i roi gwybod i’r heddlu am unrhyw ymddygiad amheus fel bod modd gweithredu ar yr adroddiadau hyn yn gyflym."
Ychwanegodd: "Byddwn yn rhoi sicrwydd i’r gymuned y bydd presenoldeb heddlu cynyddol ar hyd y promenâd dros y penwythnos nesaf.
“Rydym yn annog unrhyw un a welodd y digwyddiad yma neu a allai fod â gwybodaeth a all gynorthwyo ein hymholiadau ymhellach i gysylltu â ni."
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu gan ddyfynnu’r cyfeirnod 25000240522.