Canslo streiciau ym Mhrifysgol Caerdydd ar ôl addewid na fydd diswyddiadau gorfodol
Canslo streiciau ym Mhrifysgol Caerdydd ar ôl addewid na fydd diswyddiadau gorfodol
Mae streiciau ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cael eu canslo ar ôl addewid na fydd yna unrhyw ddiswyddiadau gorfodol eleni.
Fe wnaeth aelodau Undeb y Prifysgolion a Cholegau (UCU) gymeradwyo'r cynlluniau brynhawn Iau ar ôl trafodaethau â rheolwyr y brifysgol.
Fis Mawrth fe wnaeth aelodau’r UCU bleidleisio dros fynd ar streic am eu bod yn anfodlon â chynlluniau i gael gwared â channoedd o swyddi.
Roedd disgwyl wyth dydd o streicio gan ddechrau ar 6 Mai.
Bydd ymgynghoriad ynghylch y toriadau mewn rhai adrannau yn parhau, ac mae disgwyl rhagor o fanylion ym mis Mehefin.
Roedd y brifysgol eisoes wedi dweud ei bod wedi gallu atal diswyddiadau gorfodol ar gyfer y flwyddyn galendr hon.
Dywedodd Joey Whitfield, Llywydd UCU Caerdydd: "Rydym yn falch iawn bod aelodau a staff UCU yn y brifysgol ddim yn wynebu bygythiad o ddiswyddo gorfodol.
"Rydyn ni’n parhau i fod yn bryderus am ddyfodol y brifysgol. Ond rydym yn croesawu'r newid mewn tôn ac yn edrych ymlaen at weithio'n agosach gyda'r brifysgol yn yr wythnosau nesaf."
'Sicrwydd'
Dywedodd un o gynrychiolwyr yr undeb, Joseph Healy wrth Radio Cymru bod popeth wedi mynd “yn lot rhy fast a dweud y gwir”.
“Mae angen o leia’ chwe mis arall o drafod y peth o fewn y brifysgol er mwyn i ni gael amser i feddwl am y peth a dweud y gwir.
“Ni am sticio at beth y’n ni wedi dweud sef bo ni ddim am gymryd unrhyw weithredu diwydiannol yn y cyfnod yma tan ddiwedd 2025.
“Nid jest yn y flwyddyn academaidd yma ond mewn i’r semester nesa’ hefyd.
“Mae lot mwy o sicrwydd i bawb yn y brifysgol ond mae’r ansicrwydd yn dechrau eto ar ddiwedd y cyfnod yna.”