Newyddion S4C

Annog rhieni i roi brechiadau HPV i'w plant

ITV Cymru

Annog rhieni i roi brechiadau HPV i'w plant

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn galw ar rieni i amddiffyn pobl ifanc rhag canser gyda brechiad HPV.

Mae rhieni a gwarcheidwaid yng Nghymru yn cael eu hannog i amddiffyn eu plant rhag canserau sy'n gysylltiedig â HPV drwy sicrhau eu bod yn manteisio ar gynnig y brechlyn HPV yn yr ysgol.

Mae HPV (firws papiloma dynol) yn firws cyffredin yn y DU, ac amcangyfrifir y bydd 8 o bob 10 o bobl yn cael eu heintio â HPV ar ryw adeg yn eu bywydau.

Dywedodd Chris Johnson, Pennaeth y Rhaglen Clefydau y gellir eu hatal gan frechlynnau yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

"Nid yw'r rhan fwyaf o heintiau HPV yn dangos unrhyw symptomau ac i'r rhan fwyaf o bobl, bydd y firws yn clirio o'r corff yn naturiol heb achosi niwed

"Fodd bynnag, mewn rhai achosion gall arwain at newidiadau celloedd a allai ddatblygu i fod yn ganser."

Mae Wayne Griffiths, o Bort Talbot, yn un sy’n gwybod y risg o fynd heb y brechlyn.

Yn 2012, bu farw merch Wayne, Rhian Griffiths, yn 25 oed, ar ôl cael diagnosis o ganser ceg y groth yn 2010.

Image
Wayne a Rhian Griffiths

Mae Wayne yn credu y gallai pethau fod wedi bod yn wahanol pe bai Rhian wedi cael y brechlyn HPV.

Pan oedd Rhian yn yr ysgol nid oedd y brechlyn HPV yn cael ei gynnig yn rheolaidd eto, felly fe gollodd allan ar ei amddiffyniad.

"Mae fy ngwraig a minnau'n meddwl amdani drwy'r amser... gallai hi fod gyda ni nawr.

"Pe bai hi wedi cael y brechlyn hwnnw ym mlwyddyn 8 neu 9, gallai fod wedi ei hachub. Mae'n achub llawer o bobl." Dywedodd Wayne.

Crëwyd Cronfa Rhian Griffiths Forget Me Not i anrhydeddu ei chof a chodi ymwybyddiaeth am HPV a sgrinio ceg y groth. 

Ers dechrau'r gronfa, mae rhieni Rhian wedi codi dros £1 miliwn o bunnoedd er cof amdani, gyda'r gronfa yn helpu rhieni eraill i ddeall manteision hawlio'r brechlyn HPV. 

Mewn ysgolion ledled Cymru, mae'r brechlyn HPV yn cael ei gynnig i bob disgybl blwyddyn 8, ac i'r rhai a allai fod wedi colli eu brechiad o'r blaen. 

Mae pobl ifanc yn parhau i fod yn gymwys i dderbyn y brechlyn HPV hyd at eu pen-blwydd yn 25 oed.

Ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru, ychwanega Chris Johnson: 

"Mae'n bwysig bod rhieni a gwarcheidwaid yn deall manteision y brechlyn HPV a sut y gall helpu i amddiffyn eu plant yn ddiweddarach mewn bywyd.

Rydyn ni'n eu hannog i wneud yn siŵr bod eu plentyn yn cymryd y brechlyn pan fydd yn cael ei gynnig, i'w helpu i'w hamddiffyn rhag canser sy'n gysylltiedig â HPV yn y dyfodol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.