Newyddion S4C

Dwy ddynes wedi eu hanafu'n ddifrifol ar ôl ymosodiad yn ymwneud â bwa croes

Leeds

Mae heddlu gwrthderfysgaeth yn ymchwilio ar ôl i ddwy ddynes gael eu hanafu’n ddifrifol mewn ymosodiad yn Leeds yn Sir Efrog yng ngogledd Lloegr.

Dywedodd y llu heddlu eu bod nhw wedi dod o hyd i fwa croes a gwn ar ôl y digwyddiad.

Dywedodd Plismona Gwrthderfysgaeth (CTP) Gogledd Ddwyrain Lloegr eu bod wedi cymryd awenau’r ymchwiliad “oherwydd amgylchiadau’r digwyddiad”.

Cafodd Heddlu Gorllewin Sir Efrog eu galw i Heol Otley brynhawn ddydd Sadwrn yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi’i weld ag arfau.

Daeth swyddogion o hyd i dri o bobl ag anafiadau, ond nid ydynt yn cael eu trin fel rhai sy'n peryglu bywyd, meddai'r heddlu.

Dywedodd CTP Gogledd Ddwyrain Lloegr nos Sadwrn fod dwy ddynes wedi eu cludo i'r ysbyty.

Cafodd y trydydd person, dyn 38 oed, ei arestio a’i gludo i’r ysbyty gydag anaf hunan-achosedig.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Yvette Cooper, fod ei meddyliau gyda dioddefwyr y digwyddiad yn Leeds, gan ychwanegu ei bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa.

Dywedodd Pennaeth CTP Gogledd Ddwyrain Lloegr, y Ditectif Brif Uwcharolygydd James Dunkerley: “Er bod ein hymholiadau yn dal yn eu cyfnod cynnar iawn, mae amgylchiadau’r digwyddiad hwn wedi arwain at Blismona Gwrthderfysgaeth yn arwain yr ymchwiliad hwn.

“O’r ymholiadau a gynhaliwyd hyd yn hyn, nid oes tystiolaeth i awgrymu bod unrhyw un arall yn gysylltiedig â’r ymosodiad, ac, ar hyn o bryd, nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas â’r digwyddiad.”

Llun: Facebook

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.