Newyddion S4C

Yr actor Ioan Gruffudd wedi ail-briodi

ioan gruffudd.jpg

Mae’r actor Ioan Gruffudd wedi cyhoeddi ei fod ef a’r actores Bianca Wallace wedi priodi.

Fe gyhoeddodd fideo ar y cyfryngau cymdeithasol o’r ddau ohonynt mewn seremoni breifat gan ddweud:“Mr & Mrs Gruffudd. Priodi nawr, priodas yn hwyrach”.

Fe ddechreuodd ei yrfa actio ar y gyfres opera sebon Pobol y Cwm cyn serennu ar gyfresi teledu Hornblower a Liar ac mewn ffilmiau megis Fantastic Four a Titanic.

Mae’r ddau wedi bod mewn perthynas ers iddo wahanu o’i wraig Alice Evans dair blynedd yn ôl.

Mae ganddo ddau o blant o’i briodas gyntaf.

Yn 2022 fe wnaeth Bianca Wallace, 31 oed, ddatgelu ei bod wedi bod yn byw gyda’r cyflwr sglerosis ymledol (MS) ers iddi fod yn 25 oed.

Mae’r ddau wedi ymddangos mewn drama ‘A Ray of Sunshine’ am fenyw sy’n delio gyda diagnosis o MS.

Llun: Instagram/Ioan Gruffudd

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.