Newyddion S4C

Y ffilm fwyaf erioed i gael ei saethu'n llwyr yng Nghymru yn cael ei rhyddhau

Havoc

Mae’r ffilm fwyaf erioed i gael ei saethu’n llwyr yng Nghymru yn cael ei rhyddhau ar Netflix ddydd Gwener.

Mae HAVOC yn cynnwys Tom Hardy a Forest Whitaker ac wedi’i hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan Gareth Evans, sy’n enedigol o Gymru.

Cafodd y ffilm gyffro ei saethu mewn lleoliadau ar draws de Cymru a’i chynhyrchu yn stiwdios Great Point yng Nghaerdydd a Dragon ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Dywedodd Netflix fod Cymru bellach wedi datblygu yn un o ganolfannau cynhyrchu allweddol y cwmni.

Dywedodd Netflix fod adroddiad effaith economaidd diweddar ganddyn nhw yn dangos bod cynyrchiadau’r cwmni yng Nghymru wedi cyfrannu dros £200 miliwn i economi’r DU ers 2020, gan gefnogi dros 500 o fusnesau o bob rhan o Gymru yn y cyfnod hwnnw.

'Lle anhygoel'

Fe fydd HAVOC hefyd ar gael i’w gwylio gydag isdeitlau Cymraeg.

Mae’r ffilm wedi derbyn cefnogaeth gan Cymru Creadigol sydd hefyd wedi cefnogi cynyrchiadau gan gynnwys House of Dragons, Young Sherlock a Mr Burton.

Dywedodd Cymru Creadigol eu bod nhw’n rhagweld “y bydd y £28.6 miliwn o gyllid cynhyrchu y mae Cymru Greadigol wedi’i fuddsoddi hyd yma yn y sector sgrîn yn dod â £342 miliwn o wariant ychwanegol i economi Cymru”.

Dywedodd Is-lywydd Cynhyrchu y DU i Netflix, Anna Mallet: “Wedi’i bendithio â thalent greadigol anhygoel a thirweddau naturiol hardd, mae Cymru’n lle anhygoel i wneud adloniant, felly mae Netflix yn falch iawn bod ein cynyrchiadau Cymreig yn gallu parhau i greu cyfleoedd diwylliannol ac economaidd mor barhaus.”

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant: “Mae cydweithio fel hyn yn creu swyddi, cyfleoedd hyfforddi a gwariant mawr o fewn ein heconomi ac yn llwyfan byd-eang i arddangos popeth rydyn ni’n ei gynnig fel cenedl.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.