Newyddion S4C

Ymestyn oriau ymweld â chorff y Pab oherwydd torfeydd mawr

Y Fatican

Fe arhosodd Basilica Sant Pedr yn y Fatican ar agor drwy gydol y nos er mwyn rhoi cyfle i fwy o bobl gerdded heibio arch y Pab Ffransis.

Roedd disgwyl i’r cyfle i fynd i mewn i’r Fatican ddod i ben am hanner nos amser lleol (22.00 yma) - ond fe gafodd yr oriau eu hymestyn oherwydd y tyrfaoedd mawr y tu allan. 

Bydd modd ymweld â chorff y diweddar Bab nes 19.00 ddydd Gwener.

Bu farw’r Pab ar fore Llun y Pasg yn 88 oed o strôc a phroblemau gyda'i galon. Bydd ei angladd yn dechrau am 10.00 ddydd Sadwrn. 

Mae Tywysog Cymru, Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, Arlywydd America, Donald Trump ac Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky ymhlith y rhai a fydd yn mynd i'r angladd. 

Ffransis yw’r Pab cyntaf mewn dros ganrif i ddewis peidio â chael ei gladdu yn y Fatican. 

Bydd yn cael ei gladdu yn Eglwys y Santes Fair yn Rhufain.

Image
Torfeydd yn disgwyl i weld y Pab
Image
Torfeydd yn disgwyl i weld y Pab
Image
Torfeydd yn disgwyl i weld y Pab

Y camau nesaf

Wedi cyfnod swyddogol o alaru, bydd y broses yn dechrau o ethol Pab newydd gyda’r pleidleisio’n dueddol o ddigwydd 15 i 20 diwrnod ar ôl y farwolaeth. 

Bydd yn cael ei ddewis gan Goleg y Cardinaliaid, sef uwch swyddogion yr Eglwys Gatholig, ond ni fydd hynny'n digwydd am 15 diwrnod arall.

Ar hyn o bryd, mae 252 o gardinaliaid, ac mae 135 ohonyn nhw yn gymwys i bleidleisio dros y Pab newydd.

Does dim hawl gan y rhai sydd dros 80 oed i gymryd rhan yn y bleidlais, ond mae modd iddyn nhw ymuno â'r drafodaeth i ddewis y Pab nesaf. 

Fe fyddan nhw’n cael eu cloi mewn ystafell yng Nghapel Sistine i drafod yn gyfrinachol gyda’r papurau pleidleisio’n cael eu llosgi. 

Pan fydd mwg gwyn yn codi o’r simnai dyna pryd mae’r byd yn gwybod fod Pab newydd wedi ei ethol.

Mae gêm Chwe Gwlad y Menywod rhwng Cymru a’r Eidal wedi ei aldrefnu ar gyfer ddydd Sul oherwydd angladd y Pab Ffransis ddydd Sadwrn.

Roedd y ddau dîm rygbi i fod i wynebu’i gilydd yn Parma, Yr Eidal ar yr un diwrnod.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.