Rygbi: Aildrefnu gêm Cymru yn erbyn yr Eidal yn sgil angladd Y Pab
Bydd gêm Cymru yn erbyn yr Eidal yn Chwe Gwlad y Menywod yn cael ei chwarae ddydd Sul yn hytrach na ddydd Sadwrn oherwydd marwolaeth Y Pab.
Cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru fore Mercher y byddai'r gêm yn cychwyn am 11:30 fore Sul, 27 Ebrill yn Parma.
Wedi ei farwolaeth ar ddydd Llun y Pasg, mae'r Fatican wedi cyhoeddi y bydd angladd y Pab Ffransis yn cael ei gynnal am 10:00 ddydd Sadwrn.
Penderfynodd Undeb Rygbi Cymru, Ffederasiwn Rygbi'r Eidal a'r Chwe Gwlad "i barchu'r penderfyniad i ohirio digwyddiadau chwaraeon yn yr Eidal ar ddydd Sadwrn 26 Ebrill."
Bydd munud o dawelwch cyn y gêm ddydd Sul hefyd i gofio'r Pab.
Ychwanegodd yr Undeb y byddai pob un tocyn dal yn ddilys ar gyfer y gêm ddydd Sul.
Mae Cymru wedi colli pob un o’u pedair gêm yn y bencampwriaeth ac mae’n rhaid iddyn nhw guro’r Eidal er mwyn osgoi gorffen ar waelod y tabl am yr ail flwyddyn yn olynol.
Llun: Asiantaeth Huw Evans